J. T. Job

Bardd
(Ailgyfeiriad o John Thomas Job)

Gweinidog, bardd ac emynydd Cymreig oedd John Thomas Job, a ysgrifennodd dan yr enw J. T. Job (21 Mai 18674 Tachwedd 1938).

J. T. Job
J.T. Job yn 1904
Ganwyd21 Mai 1867 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ganed ym mhlwyf Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd yn athrofa Trefeca, a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberdâr, Bethesda ac Abergwaun. Dyfarnwyd gradd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1932.

Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897, Llanelli 1903, a Chastell-nedd 1918, a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.

Bu iddo ennill Eisteddfod San Fransisco 1915 ac, yn yr un flwyddyn, priodi am yr ail waith. Enw ei ail wraig oedd Cathreine Shaw, a ganed iddynt ddau o blant.

Cyhoeddiadau golygu

 
J T Job yn 1897
  • Pryddest y diweddar Barchedig David Charles Davies, M.A., Trefecca (Llundain, 1894)
  • Caniadau (Caernarfon, 1929)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.