Ieuan Trefor I
Clerigwr Cymreig oedd Ieuan Trefor I (bu farw 1357), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1346 hyd ei farw yn 1357. Fe'i adnabyddir hefyd fel Siôn Trefor yn Gymraeg a John Trevor I yn Saesneg.
Ieuan Trefor I | |
---|---|
Ganwyd | Trefor |
Bu farw | 1357 |
Man preswyl | Neuadd Trefor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Llanelwy, esgob esgobaethol |
Gŵr o Blas Trefor ger Llangollen oedd Ieuan. Dywedir mai ef a gododd y bont dros Afon Dyfrdwy yn Llangollen yn 1345. Claddwyd ei dad, Iorwerth ab Adda, yn Abaty Glyn y Groes gerllaw.
Ceir cerdd gan Iolo Goch sy'n moli 'llys Ieuan, Esgob Llanelwy'. Ond ceir esgob arall o'r un enw, sef Ieuan Trefor II, un o gefnogwyr Owain Glyndŵr yn 1404, ac mae haneswyr llên yn angytuno am wrthrych y gerdd. Daliai Enid Roberts fod y cywydd yn disgrifio llys Ieuan Trefor I ond mae Dafydd Johnston yn dadlau, gyda pheth betrusder, dros ei amseru i gyfnod Ieuan Trefor II. Ond roedd gan Iolo Goch gysylltiad â llys esgob Llanelwy cyn 1346, fel mae ei awdl i Dafydd ap Bleddyn, rhagflaenydd Ieuan Trefor I, yn profi, felly y mae'n hollol bosibl mai i Ieuan Trefor I y canwyd y cywydd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVI a'r nodiadau.