Jonathan Reynolds (Nathan Dyfed)

awdur ac eisteddfodwr

Roedd Jonathan Owain Reynolds (Nathan Dyfed) (28 Ebrill 181417 Gorffennaf 1891) yn saer troliau, yn fardd ac yn eisteddfodwr.[1]

Jonathan Reynolds
Nathan Dyfed.jpg
Ganwyd28 Ebrill 1814 Edit this on Wikidata
Llanwinio Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1891 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, Saer troliau, bardd, cyfieithydd llenyddol Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Ganwyd Nathan Dyfed yn Nhyddyn Rhyd Wen, ym mhlwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Dafydd a Mary Reynolds. Cafodd ychydig fisoedd o addysg mewn ysgolion lleol a gynhaliwyd gan bobl heb fawr o fanteision addysg eu hunain.[2]

GyrfaGolygu

Dysgodd crefft y saer troliau gan ei dad, a dyna fu ei waith hyd ddiwedd ei oes. Ym 1833 symudodd i Ferthyr Tudful i weithio ei grefft.

Gyrfa LenyddolGolygu

Mae sôn ei fod yn fardd o'i ieuenctid yn cyfansoddi cerddi ac emynau syml pan nad oedd dim mwy nag wyth mlwydd oed. Enillodd ei wobr eisteddfodol gyntaf yn Eisteddfod Llanboidy ym 1834, cafodd llwyddiannau eisteddfodol niferus wedi hynny. Fe'i hurddwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain gan Taliesin ab Iolo ac fe'i hurddwyd yn "Bencerdd y De" gan Gwilym Cowlyd yn Arwest Glan Geirionydd.[3] Roedd yn ffigwr amlwg yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol ei oes fel cystadleuydd ac fel beirniad. Bu hefyd yn un o arholwyr ymgeiswyr am urddau'r orsedd.[4]

Bu'n olygydd colofn Gymraeg y Merthyr Express am sawl flwyddyn a fu'n cyfrannydd cyson i'r wasg Cymraeg. Cyfieithodd MacBeth[5] a King Lear Shakespeare i'r Gymraeg [6] a fu'n darllenydd proflenni a golygydd gweithiau Taliesin ab Iolo a Gwallter Mechain ar gyfer y wasg.

TeuluGolygu

Priododd Martha Reynolds née Reynolds (dim perthynas) ym 1842, a bu iddynt naw o blant. Un o'u meibion oedd Llywarch Owain Reynolds.[1]

MarwolaethGolygu

Bu farw yn ei gartref ym Mill Street, Merthyr yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn coed y cymer.[7]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 "REYNOLDS, JONATHAN OWAIN ('Nathan Dyfed'; 1814-1891), awdur ac eisteddfodwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-09.
  2. Cymru Cyfrol. 51, 1916 Nathan dyfed adalwyd 9 Tachwedd 2019
  3. "ARWEST FARDDONOL GLAN GEIRIONYDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1884-08-23. Cyrchwyd 2019-11-09.
  4. "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON ARHOLIADAU AM URDDAU GORSEDD - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1880-08-05. Cyrchwyd 2019-11-09.
  5. "Catiau Cwta Catwg - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1916-04-06. Cyrchwyd 2019-11-09.
  6. "CHWARYDDIAETH Y BRENIN LLYR - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1885-03-28. Cyrchwyd 2019-11-09.
  7. "CLADDEDIGAETH Y BARDD NATHAN DYFED - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1891-07-29. Cyrchwyd 2019-11-09.