Bardd, newyddiadurwr, milwr, a gwleidydd Archentaidd oedd José Hernández (10 Tachwedd 183421 Hydref 1886). Ei gampwaith ydy Martín Fierro, enghraifft nodweddiadol o lenyddiaeth y gaucho a ystyrir yn arwrgerdd genedlaethol yr Archentwyr ac yn un o glasuron llên yr Ariannin.

José Hernández
GanwydJosé Rafael Hernández Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1834 Edit this on Wikidata
San Andrés de Giles, Tanger Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Belgrano Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, bardd, gwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa paja de Martín Fierro Edit this on Wikidata
Arddullgaucho literature Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational Autonomist Party Edit this on Wikidata

Ganwyd ar fferm gwartheg ger San Martín yn nhalaith Buenos Aires. Aeth i'r pampas yn ei arddegau, ac yno dysgodd am fywyd a diwylliant y gauchos. Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth cefn gwlad, ac ymunodd â'r fyddin yn 19 oed. Ar ôl rhyw pum mlynedd yn rhan o'r brwydrau rhwng y llywodraeth a'r taleithiau, ymddeolodd o'r fyddin ac ymfudodd i Entre Ríos yn 1858. Yno, ymunodd ag ymgyrchoedd chwyldroadol yn erbyn y llywodraeth ganolog, a chafodd hefyd ei brofiad cyntaf o newyddiaduraeth. Ailymunodd â'r fyddin yn 1859 a bu'n ymladd ym mrwydrau Cepeda (1859) a Pavón (1861).[1]

Ymsefydlodd yn Buenos Aires yn 1863, a gweithiodd i'r papur newydd El Argentino. Yn 1869 sefydlodd El Río de la Plata, ond cafodd y papur newydd hwnnw ei wahardd gan yr Arlywydd Domingo Sarmiento, a oedd hefyd yn llenor ac yn wrthwynebydd i Hernández.[1] Brwydrodd Hernández yng ngwrthryfel Ricardo López Jordán yn erbyn Sarmiento, ond bu'n rhaid iddo ffoi i Frasil yn 1871 yn sgil methiant y gwrthryfel hwnnw.[2]

Dychwelodd i Buenos Aires a chyhoeddodd El gaucho Martín Fierro yn 1872 a'r dilyniant La vuelta de Martín Fierro yn 1879. Y rheiny yw'r unig farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo. Ysgrifennodd sawl gwaith gwleidyddol ac erthyglau gan gynnwys Instrucción del estanciero (1881). Fe'i etholwyd yn gynrychiolydd ac yn seneddwr, a chynorthwyodd wrth sefydlu dinas La Plata. Bu farw yn ardal Belgrano, Buenos Aires, yn 51 oed o drawiad ar y galon.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "José Hernández" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 8 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) José Hernández. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Rodolfo A. Borello, Hernández: Poesía y política (1973).
  • Olga Fernández Latour De Botas, José Hernández (1973).
  • Horacio Zorraquín Becú, Tiempo y vida de José Hernández (1972).