Martín Fierro
Arwrgerdd yn yr iaith Sbaeneg gan José Hernández, bardd o'r Ariannin, yw Martín Fierro. Cyhoeddwyd rhan gyntaf y gerdd, El gaucho Martín Fierro, yn 1872. Cyfansoddodd Hernández ddilyniant, La vuelta Martín Fierro, yn 1879, ac yn aml cyhoeddir y ddau waith ar ffurf un gerdd hir. Weithiau cyfeirir at El Gaucho Martín Fierro fel La ida ("Yr ymadawiad"), mewn cyferbyniad â La vuelta ("Y dychweliad"). Dyma'r unig farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Hernández.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | José Hernández |
Iaith | Sbaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1872 |
Genre | barddoniaeth naratif, gaucho literature, arwrgerdd |
Olynwyd gan | La paja de Martín Fierro |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyrir y gerdd yn nodweddiadol o lenyddiaeth y gaucho, os nad y farddoniaeth wychaf yn yr arddull hwnnw, yn arwrgerdd genedlaethol yr Archentwyr, ac yn un o glasuron llên yr Ariannin.
Cyfolwg y stori
golyguTraddodir hanes Martín Fierro, gaucho a gaiff ei orfodi i ymuno â'r fyddin a'i ddanfon i'r gyffinwlad i ymladd y brodorion. Caiff ei gam-drin, ac mae'n ffoi o'r fyddin. Gyda'i gyfaill, y Sarsiant Cruz, âi Fierro ar herw fel gaucho matrero, a derbynient loches gan y brodorion. Pan ddychwelai Fierro i'w fro, mae'n canfod dau o'i feibion a mab Cruz.
Themâu
golyguMae'r gerdd yn cynnwys negeseuon moesol, cymdeithasol, a gwleidyddol cryf, sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd a barnau a fynegid gan Hernández yn ei newyddiaduraeth a'i ysgrifeniadau gwleidyddol. Mae'n portreadu'r camdriniaeth a brofwyd gan filwyr gorfod, a'r anghyfiawnder a gyflawnwyd yn erbyn y gauchos a'u dull o fyw.[1]
Derbyniad
golyguEnillodd y gerdd glod gan feirniaid Buenos Aires am ei harddull dafodieithol a'i brotread o brofiadau'r gaucho. Anerchodd Juan Maria Torres o Wrwgwái ei adolygiad at y genedl Archentaidd: "creadigaeth wirioneddol ydy Martín Fierro, a dylsech llenyddiaeth eich wlad fod yn falch ohoni". Yn ddiweddarach, cafodd ei chanmol gan yr ysgolheigion Sbaenaidd Miguel de Unamuno a Marcelino Menéndez y Pelayo. Yn 1913, cymharodd Leopoldo Lugones y gwaith i'r Iliad a'r Odyseia, a datganodd taw arwrgerdd genedlaethol yr Ariannin ydoedd.[2] Cyhoeddodd Jorge Luis Borges gyfrol o ysgrifau am Martín Fierro yn 1953, sy'n mynegi ei werthfawrogiad o werth lenyddol y gerdd a'i phwysigrwydd yn niwylliant yr Ariannin.[3]
Cafodd ei darllen yn eang yn yr Ariannin, gan drigolion y ddinas a'r trefi yn ogystal â gwerinwyr y pampas. Bu cynulleidfaoedd anllythrennog yn ymgynnull i wrando ar berfformiadau'r gwaith. Yng nghefn gwlad yr Ariannin, daeth y gerdd yn rhan o lên gwerin. Meddai rhai bod Fierro yn ddyn go iawn, a byddai'n dychwelyd rhyw ddydd ar gefn ei geffyl. Cafodd penillion y gerdd eu dwyn i'r cof gan gantorion y werin, a'u perfformio ar ffurf baled. Cenid rhannau'r gerdd o hyd yn niwedd yr 20g gan werinwyr nad oeddynt yn ymwybodol o darddiad llenyddol y stori.[2]
Y cymeriad Fierro ydy enghraifft glasurol y gaucho yn llên America Ladin, a llwyddodd y gwaith i siapio'r ddelwedd gyffredin o brofiad y dosbarth cymdeithasol hwnnw yn hanes yr Ariannin: trigolion dewr ac annibynnol y paith a gawsant eu hel allan o'r tir yn enw "gwareiddiad".[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Angela B. Dellepiane, "Martín Fierro" yn yr Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 8 Ebrill 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Kimberly Ball, "The Gaucho Martín Fierro" yn World Literature and Its Times: Profiles of Notable Literary Works and the Historic Events That Influenced Them (Gale, 1999). Adalwyd ar 8 Ebrill 2019.
- ↑ Sergio Gabriel Waisman, Borges and Translation: The Irreverence of the Periphery (Bucknell University Press, 2005) tt. 126–29 ISBN 0-8387-5592-5.
Darllen pellach
golygu- Luis Alposta, La culpa en Martín Fierro (Buenos Aires: Corregidor, 1998)
- Henry Alfred Holmes, Martin Fierro: An Epic of the Argentine (Efrog Newydd: Instituto de las Espanas, 1923)
- Ezequiel Martínez Estrada, Muerte y transfiguración de Martín Fierro: Ensayo de interpretación de la vida argentina (Rosario: Beatriz Viterbo Editora, 2005)
- Humberto Quiroga Lavié, Memorias de Fierro (Buenos Aires: Librería Histórica, 2003)