Llenyddiaeth Lydaweg

Gellir rhannu llenyddiaeth Lydaweg yn dri chyfnod sy'n adlewyrchu hanes yr iaith Lydaweg: yr Hen Oes, yr Oes Ganol, a'r Oes Fodern.

Llenyddiaeth Hen Lydaweg golygu

Dim ond ychydig o olion o'r Hen Lydaweg, sef y cyfnod o'r 7g i'r 11g, sydd yn goroesi, bron i gyd yn enwau a glosau ar eiriau Lladin mewn dogfennau.

Llenyddiaeth Llydaweg Canol golygu

Cychwynnai cyfnod y Llydaweg Canol yn yr 11g. Y testun llenyddol cynharaf yn yr iaith Lydaweg ydy Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff ("Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwinglaff") sy'n dyddio o'r 15g. Mae'r mwyafrif o destunau Llydaweg Canol, hyd at yr 17g, yn ymdrin â phynciau chrefyddol. Ymhlith y rhain mae nifer o ddramâu miragl sydd yn seiliedig ar hanesion yr Efengyl a bucheddau'r saint. Mae un ddrama firagl, Buhez Santez Nonn ("Buchedd y Santes Non"), yn seiiliedig ar destun Lladin o Fuchedd Dewi. Enghraifft o farddoniaeth grefyddol y cyfnod ydy Mellezour an Maru ("Drych Angau"), cerdd hir o 1519 sydd yn ymwneud â'r Farn Ddiwethaf. Y rhyddiaith gyntaf o bwys yn Llydaweg ydy Buhez Sante Cathell ("Buchedd y Santes Gatrin"; 1519), cyfieithiad o ffynhonnell Ladin yn bennaf.

Llenyddiaeth Llydaweg Modern golygu

Dywed i'r Llydaweg Modern gychwyn yng nghanol yr 17g, er i lenyddiaeth yn yr iaith barhau i ymdrin â ffurfiau a phynciau tebyg i weithiau cyfnod y Llydaweg Canol. Parhaodd traddodiad y ddrama firagl yn brif ffurf llenyddiaeth Lydaweg hyd at y 18g.

Adfywiad y 19g golygu

Ffynnai diddordeb yn yr iaith Lydaweg yn nechrau'r 19g, yn bennaf mewn ymateb i'r ymdrechion gan lywodraeth Ffrainc i ddifa ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y wlad. Cyfieithwyd y Beibl i'r Llydaweg yn 1827 gan Jean François Legonidec. Carreg filltir bwysig yn adfywiad yr iaith lenyddol oedd hyn, er na chafodd bathiadau Legonidec a'i ymdrech i buro'r iaith rhag benthyceiriau Ffrangeg fawr o ddylanwad. Yn 1839 cyhoeddwyd y casgliad Barzaz Breiz ("Barddoniaeth Llydaw") gan Hersart de Villemarqué. Fe honnai taw detholiad o ganeuon hen iawn y werin Lydewig ydoedd, ond yn wir fe adolygai sawl un ac roedd nifer fawr ohonynt o darddiad diweddar. Serch hynny, sbardunwyd nifer o awduron eraill megis Anatole Le Braz i gasglu, cofnodi a chyhoeddi llên lafar y Llydawyr: rhigymau, straeon gwerin, diarhebion, damhegion, a dychmygion ar eiriau. Un o feirdd mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd Prosper Proux, awdur Canaouennou gret gant eur C’hernewod ("Cerddi gan Ddyn o Gernyw"; 1838).

Yr 20g golygu

Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys Gwalarn (yn ddiweddarach Al Liamm). Un o nofelau gwychaf yr iaith ydy Itron Varia Garmez (1941) gan Youenn Drezen. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol Yann-Bêr Kalloc'h Jean Pierre Colloc'h a'r bardd natur Roperzh Er Mason.

Llyfryddiaeth golygu

  • Annaig Renault, Women Writers in Breton (The Celtic Pen 1:2, 1993)
  • Rhisiart Hincks, I Gadw Mamiaith Mor Hen; Cyflwyniad i ddechreuadau ysgolheictod Llydaweg (Gwasg Gomer, 1995)
  • Gwyn Griffiths, Llydaw: ei llen a'i llwybrau (Gwasg Gomer, 2000) (teithlyfr gyda sylwadau ar lên Llydaw)
  • Gwyn Griffiths a Jacqueline Gibson , The Turn of the Ermine - An Anthology of Breton Literature dros 500 tudalen y rhan fwyaf yn ddarnau Llydaweg a chyfieithiad Saesneg (Francis Bootle, 2006)
  • Cyfweliad â Llenor Llydaweg: Mikel Madeg, Taliesin 115 (Haf 2002)
  • Rita Williams, Ronan Huon 1922–2003, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
  • Jacqueline Gibson, Per Denez 1921–2011, Barn rhif 585 (Hydref 2011)
  • Heather Williams, Diffinio dwy lenyddiaeth Llydawv, Tu Chwith 12 (1999), tud. 51–6
  • Heather Williams, Diffinio Llydaw, Y Traethodydd 157 (2002), tud. 197–208
  • Heather Williams, Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux, Y Traethodydd 156 (2006), tud. 34–50
  • Heather Williams, Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw, Llên Cymru 34 (2011), tud. 216–25
  • Ceridwen Lloyd-Morgan, Er Mwyn Duw a Llydaw -Barddoniaeth Yann-Bêr Kalloc'h, yn Beirdd Ffosydd y Gwledydd Celtaidd 1914-1918gol Myrddin ap Dafydd, Carreg Gwalch (2014), tud. 98–123

Gweler hefyd golygu