Juan José Saer
Nofelydd, llenor straeon byrion, bardd, ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Juan José Saer (28 Mehefin 1937 – 11 Mehefin 2005).[1] Bu'n byw yn Ffrainc am y rhan fwyaf o'i yrfa.
Juan José Saer | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1937 Serodino |
Bu farw | 11 Mehefin 2005 o canser yr ysgyfaint Villejuif |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Arddull | nofel, stori fer, barddoniaeth, traethawd |
Gwobr/au | Premio Nadal, Gwobr Konex |
Ganwyd yn Serodino yn Nhalaith Santa Fe, yr Ariannin, ar 28 Mehefin 1937, yn fab i fewnfudwyr o Syria. Darllenwr brwd oedd y bachgen Juan, a bu'n cyfieithu barddoniaeth Keats o'r Saesneg i'r Sbaeneg yn 12 oed. Dylanwadwyd arno gan feirdd lleol megis Juan L. Ortiz a Hugo Gola.[2] Astudiodd y gyfraith ac athroniaeth ym Mhrifysgol Genedlaethol y Litoral (UNL) yn ninas Santa Fe. Yn 1962 newidiodd ei ddiddordebau academaidd, a daeth yn athro sinematograffeg yn UNL. Symudodd i Ffrainc ar ysgoloriaeth yn 1968, a darlithiodd ar bwnc llenyddiaeth ym Mhrifysgol Rennes.[3]
Nid oedd Saer yn hoff o realaeth hudol a'r arddulliau a themâu dieithr tebyg oedd yn boblogaidd yn llên America Ladin, gan gredu bod tueddiadau o'r fath yn "cyfyngu llenorion yng ngeto'r latinoamericanidad", a bod cenedlaetholdeb a gwladychiaeth yn rhwystro meddylfryd y llenor fel ei gilydd.[4] Gwobrwywyd y Premio Nadal, gwobr lenyddol yn Sbaen, iddo yn 1987 am ei nofel La ocasión, ac ef oedd y llenor cyntaf o America Ladin i'w hennill. Cafodd Saer ei alw'n "un o'r llenorion gorau mewn unrhyw iaith" gan ei gydwladwr Ricardo Piglia.[5]
Cafodd berthynas am 36 mlynedd gyda'r Ffrances Laurence Gueguen, a chawsant un mab, Jerónimo (1970–2015), ac un ferch, Clara (g. 1980). Roedd Jerónimo yn gerddor hip hop, a bu farw o ganser yn 45 oed.[6] Newyddiadurwraig ydy Clara.[7] Bu farw Juan José Saer ar 11 Mehefin 2005 ym Mharis yn 67 oed, wedi iddo ddioddef o ganser yr ysgyfaint.[8] Cyhoeddwyd ei nofel olaf, La grande, ychydig fisoedd wedi ei farwolaeth.
Llyfryddiaeth
golyguNofelau
golygu- Responso (1963)
- La vuelta completa (1966)
- Cicatrices (1969)
- El limonero real (1974)
- Nadie nada nunca (1980)
- El entenado (1983)
- Glosa (1986)
- La ocasión (1987)
- Lo imborrable (1992)
- La pesquisa (1994)
- Las nubes (1997)
- La grande (2005)
Straeon byrion
golygu- En la zona (1960)
- Palo y hueso (1965)
- Unidad de lugar (1967)
- La mayor (1976)
- Lugar (2000)
Ysgrifau
golygu- El río sin orillas: tratado imaginario (1991)
- El concepto de ficción (1997)
- La narración-objeto (1999)
- Trabajos (2005)
Barddoniaeth
golygu- El arte de narrar: poemas, 1960/1975 (1977)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Amanda Hopkinson, "Obituary: Juan José Saer", The Guardian (20 Mehefin 2005). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) William Rowe, "Juan José Saer", The Independent (18 Mehefin 2005). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Sbaeneg) José Luis Cutello, "Saer, a espaldas del Boom Latinoamericano", Gaceta (11 Mehefin 2015). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ Juan José Saer, "La selva espesa de lo real" (1979). Cyhoeddwyd yn El concepto de ficción (Buenos Aires: Ariel, 1997), tt. 267–71. Adalwyd ar wefan Rialta ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Sbaeneg) Matías Néspolo, "Juan José Saer en la selva espesa de lo real", El Mundo (6 Tachwedd 2016). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Sbaeneg) Pedro Irigoyen, "Murió a los 45 años. Jerónimo Saer: El cazador de melodías", Clarín (23 Mehefin 2015). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Sbaeneg) Natalia Páez, "Saer, el persistente. La vigencia del escritor que creó su propio paisaje", La Nacion (26 Mehefin 2016). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
- ↑ (Sbaeneg) "Murió Saer, uno de los escritores más prestigiosos de la Argentina", La Nacion (12 Mehefin 2005). Adalwyd ar 21 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- Florencia Abbate, El espesor del presente: Tiempo e historia en las novelas de Juan José Saer (Villa María, Córdoba: JQKA, 2014).
- Rafael Arce, Juan José Saer: la felicidad de la novela (Santa Fe: Ediciones UNL, 2015).
- Martín Prieto (gol.), Una forma más real que la del mundo. Conversaciones con Juan José Saer (Buenos Aires: Mansalva, 2016).
- Beatriz Sarlo, Zona Saer (Santiago: Ediciones UDP, 2016).