Pamffled
Cyhoeddiad byr neu lyfryn, yn enwedig un sy'n trafod pwnc dadleuol, yw pamffled.[2]
Yn hanesyddol bu'r pamffled yn gyfrifol am ledaenu syniadau crefyddol a gwleidyddol ar draws Ewrop a Gogledd America. Cychwynnodd yr oes bamffledu yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, ac yn y 16g roedd yn gysylltiedig â llenyddiaeth ffraethebion a dihirod a straeon am y pla yn ogystal â thraethodau crefyddol a gwleidyddol. Ymhlith pamffledwyr enwog y cyfnod yn Lloegr oedd Thomas Nashe, Thomas Dekker, Robert Greene a Martin Marprelate. Cyhoeddwyd miloedd o bamffledi yng Ngwledydd Prydain yn yr 17g, a rhai ohonynt o ansawdd lenyddol ragorol megis gweithiau John Milton. Cyhoeddwyd nifer ohonynt yn ddi-enw. Yn sgil yr Adferiad, adfywiogwyd cylchrediad pamffledi o natur enllibus (neu "hortlyfrau"), bradwrus, ac anllad. Parhaodd y traddodiad trwy'r 18g gan lenorion megis Daniel Defoe a Jonathan Swift, er i dwf cylchgronau a chyfnodolion wythnosol leihau'r galw am bamffledi.[1]
Ar ochr draw'r Iwerydd, cafodd y pamffled ddylanwad sylweddol ar y Chwyldro Americanaidd. Cyhoeddodd Thomas Paine Common Sense ychydig o fisoedd cyn Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ac ar ôl sefydlu'r wlad newydd lledaenodd syniadau ar sut i lunio'r cyfansoddiad trwy'r pamffled, a'r enghraifft amlycaf yw The Federalist Papers gan Alexander Hamilton, John Jay a James Madison. Yn Ffrainc defnyddiodd Voltaire, Rousseau, Montesquieu a Diderot bamffledi i gyhoeddi syniadau'r Oleuedigaeth trwy ddisgwrs a dadl resymedig. Wedi'r Chwyldro Ffrengig, daeth y pamffled unwaith eto yn erfyn y polemegydd.[3] Cafodd y ffurf ei diwygio ym Mhrydain yn y 19g gan Fudiad Rhydychen ac yn hwyrach Cymdeithas y Ffabiaid.[1]
Ers dechrau'r 20g, defnyddir y pamffled i ledaenu gwybodaeth yn hytrach na syniadau, yn bennaf gan lywodraethau a sefydliadau addysgol.[3] Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Mae pamffled yn gyhoeddiad argraffedig nad yw'n gyfnodolyn sydd o leiaf 5 ond nid yn fwy na 48 o dudalennau, heb gyfrif tudalennau'r clawr, ac wedi ei gyhoeddi mewn gwlad benodol ac ar gael i'r cyhoedd."[4]
Geirdarddiad
golyguBenthycair o'r gair Saesneg pamphlet yw "pamffled" neu "pamfflet". Mae ffurfiau Cymraeg o'r gair yn dyddio'n ôl i'r 1660au.[2] Daw'r gair Saesneg o deitl cerdd serch Ffrengig yn yr iaith Ladin o'r 12g: Pamphilus, seu de Amore, neu yn Saesneg Pamphilet.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Birch, Dinah (gol.) The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 751–2.
- ↑ 2.0 2.1 pamffled. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) pamphlet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) Recommendation concerning the International Standardization of Statistics Relating to Book Production and Periodicals. UNESCO (19 Tachwedd 1964). Adalwyd ar 12 Hydref 2014. "A pamphlet is a non-periodical printed publication of at least 5 but not more than 48 pages, exclusive of the cover pages, published in a particular country and made available to the public"