Bardd Ffrengig a anwyd yn Wrwgwái oedd Jules Laforgue (16 Awst 186020 Awst 1887). Roedd yn rhan o'r mudiad Symbolaidd, ac yn un o ddyfeiswyr vers libre. Cafodd ddylanwad pwysig ar farddoniaeth Ffrangeg yn niwedd y 19g ac ar feirdd diweddarach o wledydd eraill, gan gynnwys T. S. Eliot ac Ezra Pound. Ysgrifennodd hefyd ysgrifau beirniadol o nod am gelf yr Argraffiadwyr.

Jules Laforgue
Ganwyd16 Awst 1860 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 1887 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Condorcet Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, rhyddieithwr Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo, Wrwgwái, a chafodd ei fagu yn Tarbes yn ne orllewin Ffrainc o 1886 i 1876. Symudodd i Baris yn 1876 a mynychodd y Lycée Fontanes. Aeth i wrando ar ddarlithoedd yr hanesydd a beirniad llenyddol Hippolyte Taine yn yr École des Beaux-Arts.

Penodwyd Laforgue yn ddarllenydd Ffrangeg i Augusta, Ymerodres yr Almaen, yn 1881, ac aeth i'r Almaen am ryw pum mlynedd. Yno ysgrifennodd y mwyafrif o'i gyfansoddiadau, sy'n cynnwys Les Complaintes (1885), L'Imitation de Notre-Dame la Lune (1886), a Le Concile féerique (1886). Nodir ei delynegion gan eironi. Cyhoeddwyd ei feirniadaeth celf mewn cylchgronau Symbolaidd, a chesglid y rheiny yn y gyfrol Mélanges posthumes (1923).[1]

Priododd Saesnes o'r enw Leah Lee yn Llundain ar 31 Rhagfyr 1886, a symudasant i fyw ym Mharis. Yno bu farw Laforgue mewn tlodi o dwbercwlosis yn 27 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jules Laforgue. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) "Jules Laforgue" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Michael Collie, Jules Laforgue (Llundain: Athlone Press, 1977).
  • Warren Ramsey, Jules Laforgue and the Ironic Inheritance (1953).