Khair-ed-din Barbarossa

Môr-leidr enwog o'r 16g oedd Khair-ed-din Barbarossa neu Khair ed-Din (ad-Din) (tua 14871546). Cafodd y llysenw 'Barbarossa' (Eidaleg: 'Barf goch') oherwydd lliw ei farf. Ef oedd y mwyaf adnabyddus o fôr-ladron Barbari a ymosodant yn rheolaidd ar longau a threfi yn y Môr Canoldir a thu hwnt.

Khair-ed-din Barbarossa
FfugenwBarbarossa Edit this on Wikidata
Ganwyd1478, 1484 Edit this on Wikidata
Gera Municipal Unit Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 1546 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, gwleidydd, llyngesydd, Herwlongwriaeth, môr-leidr Edit this on Wikidata
SwyddKapudan Pasha, Beylerbey of Algiers Edit this on Wikidata
TadYakup Ağa Edit this on Wikidata
PlantHasan Pasha Edit this on Wikidata
Am yr ymerawdwr a lysenwid "Barbarossa", gweler Ffredrig I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
Barbarossa

Ganed Barbarossa ym Mytilene, ar ynys Lesbos (yng Ngwlad Groeg heddiw ond ym meddiant Twrci o 1462 hyd 1912), yn y 1570au. Gyda'i frodyr troes at ysbeilio llongau fel un o'r corsairs Tyrcaidd.

Ar ôl i'w frawd Horuk gael ei ladd yn 1518 hwyliodd i'r gorllewin. Ymunodd yn ymgyrch swltan Twrci yn erbyn Portiwgal a Sbaen. Cipiodd Algiers yn 1529 a chafodd ei benodi'n gapten llynges y Homan yn 1533. Yn 1534 cipiodd Tiwnis hefyd. Roedd yn forwr penigamp. Uchafbwynt ei yrfa efallai oedd ennill fuddugoliaeth enwog yn erbyn llynges Siarl V o Ffrainc yn 1538 a roddodd reolaeth ar y Môr Canoldir dwyreiniol i Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Llyfryddiaeth golygu

  • Bradford, Ernle, The sultan's admiral: the life of Barbarossa (Llundain, 1968)
  • Wolf, John B., The Barbary Coast: Algeria under the Turks (Efrog Newydd, 1979). ISBN 0-393-01205-0