Kraków
Ail ddinas fwyaf Gwlad Pwyl ac un o'i dinasoedd hynaf yw Kraków neu yn Gymraeg Cracof.[1] Fe'i lleolir ger Afon Wisła ac mae'n dyddio o'r 7c. Yn draddodiadol, mae Kraków wedi bod yn un o ganolfannau bywyd diwylliannol, academaidd a chelfyddydol blaenaf Gwlad Pwyl ynghyd â bod yn ganolbwynt economaidd. Bu prifddinas Gwlad Pwyl rhwng 1038 a 1569; y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd rhwng 1569 a 1596; Dinas Rydd Kraków rhwng 1815 a 1846; Archddugiaeth Cracow rhwng 1846 a 1918; a Foifodiaeth Kraków rhwng y 14g hyd at 1990. Bellach, mae'n brifddinas Foifodiaeth Pwyl Fechan.
Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas fawr, dinas Hanseatig, cyrchfan i dwristiaid, former national capital |
---|---|
Poblogaeth | 804,237 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Aleksander Miszalski |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pwyleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lesser Poland Voivodeship |
Sir | Lesser Poland Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 327 ±1 km² |
Uwch y môr | 219 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Vistula |
Yn ffinio gyda | Sir Kraków, Sir Wieliczka, Sir Proszowice, Gmina Zielonki, Gmina Michałowice, Lesser Poland Voivodeship, Gmina Kocmyrzów-Luborzyca, Gmina Koniusza, Gmina Igołomia-Wawrzeńczyce, Gmina Niepołomice, Gmina Wieliczka, Gmina Świątniki Górne, Gmina Mogilany, Gmina Skawina, Gmina Liszki, Gmina Zabierzów, Gmina Wielka Wieś |
Cyfesurynnau | 50.0614°N 19.9372°E |
Cod post | 30-001 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Kraków City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Kraków |
Pennaeth y Llywodraeth | Aleksander Miszalski |
Mae'r ddinas wedi tyfu o fod yn anheddfa Oes y Cerrig i fod yn ail ddinas bwysicaf Gwlad Pwyl. Dechreuoedd fel pentrefan ar ben Bryn Wawel a cheir adroddiadau iddi fod yn ganolfan fasnachu bwysig Ewrop Slafonig erbyn 965. Sefydlwyd prifysgolion newydd a sefydliadau diwylliannol yn sgil dyfodiad yr Ail Weriniaeth Bwylaidd yn 1918 a thrwy gydol yr 20g gan gadarnhau lle Kraków fel canolbwynt bywyd gwâr o bwysigrwydd gwladol. Erbyn heddiw, mae gan y ddinas boblogaeth o 760, 000 ac mae rhyw 8 miliwn o bobl yn byw o fewn radiws o 100 km i'r sgwâr canolog.
Wedi Goresgyniad Gwlad Pwyl ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, daeth Kraków yn brifddinas y Llywodraeth Gyffredinol Almaenig. Ysytriedid y Pwyliaid a'r Iddewon yn is-ddynol ac yn is-raddol gan y gorchfygwyr a chaent eu herlid; bwriadwyd eu difa yn y pen draw. Symudwyd y boblogaeth Iddewig i ardal amgaerog o'r ddinas a elwid yn Ghetto Kraków, ac ohoni y danfonasant hwy i wersylloedd crynhoi a gwesylloedd difa megis Auschwitz, a saif ar gyfyl Kraków.
Yn 1978 fe etholwyd Karol Wojtyła, Archesgob Kraków, i'r Babaeth fel Pab Ioan Pawl II— y Pab Slafaidd cyntaf erioed a'r tro cyntaf i Bab o wlad arall heblaw am yr Eidal cael ei ethol am 455 blynedd. Yr un flwyddyn, cymeradwyodd UNESCO y Safleoedd Trefdadaeth y Byd cyntaf, gan gynnwys yn eu mysg Hen Dref Kraków yn ei chyfanrwydd. Ystyrir Kraków heddiw yn ddinas o arwyddocâd rhyngwladol ac yn un o ddinasoedd harddaf Ewrop.
Enwogion
golygu- Sant Casimir Jagiellon (1458-1484)
- Henryk Grossman (1881-1950), hanesydd ac economegydd
- Rudolph Maté (1898-1964), cyfarwyddwr ffilm
- Róża Thun (g. 1954), gwleidydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Krakow].
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·