Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen
Ffedersasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen yn Sbaeneg, Real Federación Española de Fútbol neu RFEF yw'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio clybiau pêl-droed a threfnu cystadlaethau cenedlaethol a gemau rhyngwladol Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen. Mae gan y Gymdeithas 671,581 o ddeiliaid trwyddedau pêl-droed yn 2008[3], ond mae bron i ddyblu'r nifer hynny yn chwarae futsal, h.y. tua 1,200,000 o chwaraewyr trwyddedig[4]. Lleolir ei phencadlys yn La Ciudad del Fútbol, Las Rozas ger y brifddinas, Madrid.
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 14 Hydref 1909 (fel Federación Española de Clubs de Football)[1] 29 Medi 1913[2] |
Aelod cywllt o FIFA | 1904 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Luis Rubiales |
Gwefan | rfef.es |
Hanes
golyguBu cyfnod cychwynnol sefydlu strwythur wladwriaethol i bêl-droed yn Sbaen gydag ymgiprys rhwng dau gorff am fod gynrychioli a rheoli'r gêm o fewn y frenhiniaeth. Sefydlwyd Cymdeithas Clybiau Pêl-droed Sbaen Federación Española de Clubs de Football yn madrid ar 14 Hydref 1909. Y prif glybiau sefydlu oedd: Foot-Ball Club Barcelona, el Vigo Foot-Ball Club, el Tarragona Foot-Ball Club, el Pamplona Foot-Ball Club, la Sociedad Gimnástica Española, el Irún Sporting Club, el Real Club Fortuna de Vigo y el Español Foot-Ball Club de Madrid. Ond trodd clybiau eraill eu cefnau ar y Gymdeithas newydd, yn eu mysg, y clybiau a ddaeth maes o law i fod yn Real Sociadad Bilbao, Real Madrid a Real Sociadad San Sebastian.
Yn y pendraw, cadwyd cymodi wedi ffeinal Copa del Rey (Cwpan y brenin) yn 1911, a sefydlwyd y Ffederasiwn ei hun yn 1913.
Fodd bynnag, ystyrir hi yn aelod sylfaenol o FIFA yn 1904 o ganlyniad i ymwneud clybiau Sbaeneg yn ei sefydlu. Mae'r Ffederasiwn yn aelod o UEFA ers ei greu yn 1954.
Canmlwyddiant y Ffederasiwn Sbaeneg Dathlwyd 14 Tachwedd, 2009 gyda gêm gyfeillgar ym Madrid (Vicente Calderon Stadiwm) rhwng Sbaen a'r Ariannin (2-1 i Sbaen).
Trefniadaeth
golyguMae'r Ffederasiwn yn gweinyddu cystadlaethau, yn ganolog neu dwy is-gyrff:
- Cynghreiriau cenedlaethol - Campeonato Nacional de Liga: y Primera División a'r Segunda División
- Y Segunda División B a'r Tercera División gyda chefnogaeth y ffederasiynau pêl-droed rhanbarthol
- Apwyntio rheolwr y tîmau cenedlaethol - dynion, menywod, ieuenctid
- Daw tîm Futsal cenedlaethol Sbaen hefyd o dan adain y RFEF
Rhanbarthau
golyguMae'r RFEF yn cynnwys 19 ffederasiwn rhanbarthol sy'n seiliedig ar Gymunedau ymreolaethol Sbaen.
- Andalucía: Federación Andaluza de Fútbol
- Aragon: [[Federación Aragonesa de Fútbol
- Asturias: Real Federación de Fútbol del Principado de Asturias
- Ynysoedd Balearig: Federació de Futbol de les Illes Baleares
- Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg: Federación Vasca de Fútbol/Euskadiko Futbol Federakundea - ni ddylid eu camgymryd am Tîm pêl-droed Gwlad y Basg
- Yr Ynysoedd Dedwydd: Federación Canaria de Fútbol
- Cantabria: Federación Cántabra de Fútbol
- Castlilla a León: Federación de Castilla y León de Fútbol
- Castilla-La Mancha: Federación de Fútbol de Castilla-La Mancha
- Catalwnia: Federació Catalana de Futbol - ni ddylid eu camgymryd am Tîm pêl-droed cenedlaethol Catalwnia
- Ceuta: Federación de Fútbol de Ceuta
- Cymuned Madrid: Federación de Fútbol de Madrid
- Extremadura: Federación Extremeña de Fútbol
- Galisia: Federación Gallega de Fútbol]]
- La Rioja: Federación Riojana de Fútbol
- Melilla: Federación Melillense de Fútbol]]
- Cymuned Murcia: Federación de Fútbol de la Región de Murcia
- Navarra: Federación Navarra de Fútbol
- Cymuned Valencia: Federación de Fútbol de la Comunidad Valenciana
Llywyddion RFEF
golyguLlywydd | Teyrnasiad |
---|---|
Francisco García | 1913–1916 |
Gabriel Maura | 1916–1920 |
David Ormaechea | 1921–1923 |
Gabriel Maura | 1923–1924 |
Julián Olave | 1924–1926 |
Antonio Bernabéu | 1926–1927 |
Pedro Díez de Rivera (Marqués de Someruelos) | 1927–1931 |
Leopoldo García | 1931–1936 |
Julián Troncoso | 1939–1940 |
Luis Saura | 1940–1941 |
Javier Barroso | 1941–1946 |
Jesús Rivero | 1946–1947 |
Armando Muñoz | 1947–1950 |
Manuel Valdés | 1950–1952 |
Sancho Dávila | 1952–1954 |
Juan Touzón | 1954–1956 |
Alfonso de la Fuente | 1956–1960 |
Benito Pico | 1960–1967 |
José Luis Costa | 1967–1970 |
José Luis Pérez-Paya | 1970–1975 |
Pablo Porta | 1975–1984 |
José Luis Roca | 1984–1988 |
Ángel María Villar | 1988–2017 |
Juan Luis Larrea | 2017–2018 |
Luis Rubiales | 2018– |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Le quiere quitar cuatro títulos históricos al Madrid y uno al Barcelona". Marca. 2010-03-07. Cyrchwyd 2010-12-04.
- ↑ "Adidas presentó la nueva equipación de España". Real Federación Española de Fútbol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 2010-12-04. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ [1]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 2018-09-20.