Lady Penrhyn (llong)
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Roedd y Lady Penrhyn yn llong transport 338 tunnell yn y Llynges Gyntaf fasnachol. Fe'i adeiladwyd ar lannau Afon Tafwys yn 1786.
Enwir y llong ar ôl Anne Susannah, Arglwyddes Penrhyn, merch ac unig etifeddes y Cadfridog Warburton o Winnington, a briododd Richard Pennant yn 1763.
Roedd ei feistr, William Cropton Lever, yn berchennog rhannol arni. Hwyliodd o Portsmouth yn Lloegr ar y 13 Mai, 1787, yn cludo 108 o gonficts benywaidd i Awstralia. John Turnpenny Altree oedd y meddyg oedd yn gyfrifol am y carcharorion ac Arthur Bowes Smyth oedd llawfeddyg y llong.
Cyrhaeddodd y Lady Penrhyn Port Jackson, ger Sydney heddiw, yn Awstralia, ar 26 Ionawr, 1788. Roedd hi wedi cael ei huro gan y British East India Company, a gadawodd Port Jackson ar 5 Mai yn yr un flwyddyn ar fordaith anuniongyrchol i Tsieina er mwyn codi cargo o de. Ond yn gyntaf ymwelodd â rhai o ynysoedd y Cefnfor Tawel, yn cynnwys Ynys Penrhyn yn Ynysoedd Cook, lle glaniodd ar 8 Awst, 1788; mae'r ynys yn dwyn ei henw hyd heddiw.
Cyrhaeddodd y Lady Penrhyn yn ôl i Portsmouth ganol Awst, 1789, wedi bod i ffwrdd am dros ddwy mlynedd o amgylch y byd.
Darllen pellach
golygu- Gillen, Mollie, The Founders of Australia: a biographical dictionary of the First Fleet (Sydney, Library of Australian History, 1989)
- Bateson, Charles, The Convict Ships, 1787-1868 (Sydney, 1974)