Cwmni India'r Dwyrain
Cwmni cydgyfalaf siartredig o Deyrnas Lloegr, ac yn ddiweddarach Prydain Fawr, yn ystod Oes y Darganfod a'r Hen Imperialaeth oedd Cwmni India'r Dwyrain (Saesneg: East India Company) a gafodd ran fawr yn natblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig yn is-gyfandir India. Yn llawn ei enw ffurfiol oedd Llywodraethwr a Chwmni Marsiandïwyr Llundain yn Masnachu i India'r Dwyrain (Governor and Company of Merchants of London Trading into the East Indies) ers ei siartro ym 1600 i 1708, a Chwmni Unedig Marsiandïwyr Lloegr yn Masnachu i India'r Dwyrain (United Company of Merchants of England Trading to the East Indies) o 1708 hyd at ei ddadsefydlu ym 1873. Fe'i gelwir weithiau yn Gwmni Seisnig India'r Dwyrain neu Gwmni Prydeinig India'r Dwyrain, er mwyn ei wahaniaethu oddi ar gwmnïau tebyg o wledydd eraill Ewrop. Cychwynnodd drwy ymelwa ar farchnadoedd newydd yn Ne Ddwyrain Asia a sefydlu monopolïau ar hyd arfordir dwyreiniol India, yn aml gyda nerth milwrol. Yn nechrau'r 18g, datblygodd y cwmni yn gorff llywodraethol ac yn gyfrwng i imperialaeth Brydeinig yn India, gan reoli'r holl wlad o ail hanner y 18g hyd at sefydlu'r Raj ym 1858.
Enghraifft o'r canlynol | busnes, menter, colonial society, East India company |
---|---|
Daeth i ben | 1 Mehefin 1874 |
Dechrau/Sefydlu | 31 Rhagfyr 1600 |
Yn cynnwys | Bengal Army |
Sylfaenydd | John Watts, George White |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyd-stoc |
Cynnyrch | Cotwm, Sidan, indigo, siwgr, halen, rhywogaeth, saltpeter, te, masnach gaethion, Opiwm |
Pencadlys | Llundain, East India House, Crosby Hall, London |
Enw brodorol | British East India Company |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y cwmni ar 24 Medi 1599 gan garfan o foneddigion, morwyr, a dynion busnes Llundeinig, yn eu plith yr Arglwydd Faer Syr Stephen Soame, yr Archwilydd Syr Thomas Smythe, y fforwyr William Baffin a Ralph Fitch, yr awdur Richard Hakluyt, a'r preifatîr Syr James Lancaster. Nod y fenter newydd, a ysbrydolwyd gan Gwmni'r Lefant, oedd i gystladu â'r Iseldirwyr yng Nghefnfor India a masnachu yn uniongyrchol â gwledydd India'r Dwyrain—yr hen enw ar Ynysfor Maleia, Indo-Tsieina, ac India—yn hytrach nag ar hyd Lwybr y Sbeisys trwy'r Dwyrain Canol. Ers rhyw ddeng mlynedd, wedi methiant Armada Sbaen, gobaith y Saeson oedd torri monopolïau ymerodraethau Sbaen a Phortiwgal ar y fasnach sbeisys yn India'r Dwyrain, ac yn sgil chwalu'r trafodaethau heddwch rhwng Lloegr a Sbaen, cytunodd Coron Loegr i gefnogi'r fenter. Derbyniodd y cwmni ganiatâd ffurfiol oddi ar y Frenhines Elisabeth I ar 23 Medi 1600, a chafodd ei gorffori gan siarter frenhinol ar 31 Rhagfyr 1600.[1]
Hyd at 1612, ariannodd Cwmni India'r Dwyrain fordeithiau drwy danysgrifiadau ar wahân. Lansiwyd y cyntaf o'r rheiny, dan gapteiniaeth Syr James Lancaster, ar fanerlong y Red Dragon ar 13 Chwefror 1601. Cyrhaeddodd Aceh, ar ynys Sumatera, ym Mehefin 1602, ac ymhen flwyddyn arall fe ddychwelodd Lancaster i Loegr gyda sbeisys wedi eu prynu oddi ar Swltan Aceh, yn ogystal â sbeisys wedi eu ysbeilio o un o garacau'r Portiwgaliaid. Ym 1613 codwyd £418,000 (gwerth $44 miliwn yn 2019) ar gyfer cydgyfalaf cyntaf y cwmni, a chynyddodd i £1.6 miliwn (£168 miliwn yn 2019) ar gyfer yr ail gydgyfalaf ym 1617.[2] Codwyd rhagor dros dro nes i gydgyfalaf parhaol gael ei sefydlu ym 1657.
Teithiodd Syr Thomas Roe i Ymerodraeth y Mughal ym 1615–18 ar genhadaeth i'r Ymerawdwr Jahangir, a llwyddodd i dderbyn caniatâd i sefydlu gorsaf fasnachu i Gwmni India'r Dwyrain yn Surat, gan felly rhoi i'r cwmni ei droedle cyntaf yn India. Ar yr un pryd, wynebodd y Saeson fwy o gystadleuaeth o'r Iseldirwyr a'r Portiwgaliaid yn ynysoedd India'r Dwyrain, gan gynnwys gwrthdaro arfog. Ym 1623, lladdwyd 10 o asiantau'r cwmni gan luoedd Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain (VOC) yn Amboyna, yn ynysoedd Maluku, a gwaharddwyd, ac o ganlyniad, penderfynodd cyfarwyddwyr y cwmni i ildio'r fasnach yn Ynysoedd y Sbeisys i'r VOC, ac i ganolbwyntio ar fasnachu cotwm, indigo, tsints, a solpitar yn India. Cododd Francis Day gaer i'r cwmni ar safle Madras, ar brydles tir gan Ymerodraeth Vijayanagara, ym 1634.[3]
Yn y 1620au dechreuodd y cwmni ddefnyddio llafur gorfodol a chludo caethweision i'w hamddiffynfeydd a gorsafau masnachu ar draws Cefnfor India, yn ogystal ag ynys Saint Helena yn ne Cefnfor yr Iwerydd. Daeth y mwyafrif o'r caethweision o Ddwyrain Affrica—yn enwedig Mosambic a Madagasgar—a chawsant eu cludo yn bennaf i eiddo'r cwmni yn India'r Dwyrain ac India; daeth rhai ohonynt o India'r Dwyrain neu'r fasnach gaethweision yng Ngorllewin Affrica. Bu rhan y cwmni yn y fasnach gaethweision ar ei hanterth o'r 1730au hyd at ganol y ganrif, a daeth i ben yn y 1770au.[4]
Wrth i'r galw am nwyddau gotwm ostwng yng nghanol y 18g, daeth y fasnach de, a gafodd ei fewnforio o Tsieina, yn fwyfwy pwysig i Gwmni India'r Dwyrain. Yn nechrau'r 19g cafodd opiwm ei allforio yn anghyfreithlon i Tsieina gan y cwmni er mwyn ariannu'r fasnach de. Arweiniodd gwrthwynebiad y Tsieineaid at y Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42), ac yn sgil buddugoliaeth y Prydeinwyr, ehangwyd hawliau masnach y cwmni yn Tsieina.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Dalrymple, The Anarchy: The Relentless Rise of the East India Company (Llundain: Bloomsbury, 2019).
- ↑ Dalrymple, The Anarchy (2019), t. 20.
- ↑ Dalrymple, The Anarchy (2019), t. 21.
- ↑ (Saesneg) East India Company. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2022.