Lai
Cerdd draethiadol fer yn llenyddiaeth ganoloesol Ffrainc a Lloegr yw'r lai a ysgrifennwyd yn Hen Ffrangeg, Eingl-Normaneg, neu Saesneg Canol. Lleolir y straeon hyn yn Llydaw, Cernyw, a Lloegr, ac maent yn ymwneud â serch llys, sifalri, ymladdfeydd, anturiaethau, hud a lledrith, a'r tylwyth teg ac yn tynnu'n gryf ar lên gwerin Celtaidd, yn enwedig Cylch Arthur, a thraddodiad llafar y contes Llydewig. Fe'i cyfansoddwyd gan amlaf mewn cwpledi o linellau wythsill sy'n odli. Dyma un o'r ddwy ffurf lenyddol, ynghŷd â'r rhamant llys, a ddefnyddiwyd i gyfansoddi barddoniaeth Mater Prydain. Credir i storïwyr Llydaw ganu'r lais cyntaf yn Ffrangeg neu Lydaweg, er nad oes yr un ohonynt yn goroesi. Ansicr yw geirdarddiad yr enw, gan nad oes tystiolaeth o fôn Llydaweg iddo, ond mae'r gair Hen Wyddeleg laíd (cerdd, cân) yn awgrymu ffynhonnell Geltaidd o bosib.[1]
Prif awdur y ffurf hon yn yr Eingl-Normaneg ydy Marie de France, a ysgrifennodd ddeuddeg o lais yn Lloegr yn niwedd y 12g. Honna bod ei cherddi yn tynnu ar ffynonellau Llydaweg, ac maent yn llawn cyfeiriadau at hanes traddodiadol a motiffau o lên gwerin y gwledydd Celtaidd. Er enghraifft, cymharer y gêm ford yn Eliduc â fidchell yn llenyddiaeth Wyddeleg a gwyddbwyll yn y Mabinogi. Dim ond un o lais Marie sydd yn cynnwys cymeriadau Arthuraidd, sef Lanval, am un o farchogion llys y Brenin Arthur. Adroddir chwedl Gernywaidd Trystan ac Esyllt yn Chevrefoil.
Nid yw'n sicr pwy ysgrifennodd y lais eraill sydd yn goroesi o'r 12g a'r 13g, ac yn hanesyddol cawsant eu priodoli i Marie de France. Un enghraifft ydy Graelent, gwaith tebyg i Lanval, a gredir iddo gael ei gyfansoddi gan fardd o Lydaw.[1] Yn niwedd y 13g a dechrau'r 14g ysgrifennwyd sawl lai yn Saesneg, gan gynnwys Sir Gowther (tua 1400), ffurf ar chwedl Robert y Cythraul; Lai le Freine; Sir Orfeo, am serch Orffews ac Eurydice; y rhamant Arthuraidd Sir Launfal neu Launfalus Miles gan Thomas Chestre.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 John T. Koch (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2006), tt. 262–3.
- ↑ (Saesneg) Breton lay. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mawrth 2021.