Enw ar gylch chwedloniaeth sy'n seiliedig ar lenyddiaeth Gymraeg, Llydaweg, a Chernyweg yr Oesoedd Canol, yn enwedig mewn cyd-destun barddoniaeth Hen Ffrangeg ac Eingl-Normaneg, yw Mater Prydain. Dyma enw cyfleus i ddisgrifio'r traddodiad llenyddol am y Brenin Arthur sy'n seiliedig ar hanes traddodiadol a mytholeg genedlaethol y Brythoniaid. I raddau helaeth mae Mater Prydain yn gyfystyr â Chylch Arthur, ond yn cynnwys ambell gwaith sy'n rhannu themâu a motiffau tebyg â chwedlau Arthur ond nid yr un cymeriadau na'r un straeon.

Mytholeg Geltaidd
Coventina
Amldduwiaeth Geltaidd

Duwiau a duwiesau Celtaidd

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Bathwyd yr enw Matière de Bretagne gan Jean Bodel yn ei gerdd Hen Ffrangeg La Chanson des Saisnes (tua 1200), a rennid barddoniaeth ramantaidd ac epig Ewrop yn dri thraddodiad: Mater Rhufain, sef rhamantau'r Henfyd, Cylch Caerdroea, hen farddoniaeth Ladin, a chwedlau Alecsandraidd; Mater Ffrainc, hynny yw chansons de geste ac arwrgerddi am oes Siarlymaen; a Mater Prydain, sy'n cynnwys rhamantau Arthuraidd a cherddi eraill am serch llys a sifalri. Er bod y dull hwn o gategoreiddio barddoniaeth ganoloesol yn boblogaidd, nid yw'n cynnwys pob rhamant ac arwrgerdd a genid gan feirdd yr Oesoedd Canol. Bellach, cynhwysir sawl rhamant Saesneg Canol yn y corff a elwir Mater Lloegr.

Cyfansoddwyd barddoniaeth Mater Prydain ar ddwy ffurf lenyddol: y lais neu gerddi Llydewig, a'r rhamant llys. Prif awdur y lais Eingl-Normaneg ydy Marie de France, a ysgrifennodd yn Lloegr yn y 1170au. Cerddi traethiadol byrion ydynt sy'n ymwneud â serch, ymladdfeydd, anturiaethau, hud a lledrith, a'r tylwyth teg ac yn tynnu'n gryf ar lên gwerin Celtaidd a contes storïwyr Ffrangeg Llydaw. Lleolir y straeon hyn yn Llydaw, Cernyw, a Lloegr, ac ymhlith y straeon mae Trystan ac Esyllt a Lanval, un o farchogion llys Arthur. Y prif ramantau Arthuraidd ydy pum rhamant Chrétien de Troyes a ysgrifennwyd yn y 1170au a'r 1180au, sy'n cyflwyno Mater Prydain ar ei ffurf fwyaf ddatblygedig.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. John T. Koch (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2006), tt. 1280–81.