Genre lenyddol arbennig a gysylltir â'r cysyniad o sifalri yn yr Oesoedd Canol yw serch llys (Ffrangeg: amour courtois; Ocsitaneg fin amor). Er iddo gael ei gysylltu'n bennaf â llenyddiaeth, dylanwadodd serch llys ar sawl agwedd arall o fywyd yr Oesoedd Canol hefyd. Er bod rhai haneswyr yn amau dilysrwydd y term - a fathwyd yn y 19g - erbyn heddiw, mae'n aros yn derm cyfleus a ddefnyddir yn gyffredin.

Serch llys
Enghraifft o'r canlynolthema, stoff Edit this on Wikidata
Mathcariad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marchog yn derbyn ei arfau gan ei Arglwyddes, Codex Manesse

Math o serch rhamantaidd a gawsai ei foli, ei feithrin a'i ddyrchafu yn y llysoedd brenhinol a phlasdai uchelwyr yw serch llys. Daw i'r golwg fel confensiwn am y tro cyntaf yn ardal Profens (de Ffrainc) yn gynnar yn y 12g, ond mae ei wreiddiau'n hŷn a cheir cysyniad cyffelyb yng ngwaith rhai beirdd Arabaidd cynharach, yn enwedig y Mwriaid yn Andalucía. Credir fod barddoniaeth y bardd Rhufeinig Ofydd yn ddylanwad pwysig arall. Roedd yn cael ei fynegi mewn rhyddiaith a barddoniaeth.

Ymledodd o Brofens ar draws gorllewin Ewrop, i wledydd Prydain, gogledd Ffrainc (gwaith y Trouvères a Chrétien de Troyes er enghraifft), yr Almaen (y Minnesänger) a'r Eidal (y Stilnovisti a gwaith Dante) a thu hwnt. Yng Nghymru gwelir ei ddylanwad amlycaf ar rai agweddau o waith Dafydd ap Gwilym ac eraill o'r cywyddwyr ac yn y Tair Rhamant. Yn yr olaf, ac yn y rhamantau Arthuraidd yn gyffredinol, gwelir cydblethu serch llys a nodweddion Celtaidd.

Ceir enghreifftiau da o gonfensiynau serch llys yng nghanu y Trwbadwriaid a chafodd ddylanwad ar Gymru hefyd, o gyfnod Beirdd y Tywysogion ymlaen. Traddodiad arall a geir yn rhai o'r cerddi poblogaidd gan y clerici vagantes ("clerigwyr crwydrol" neu Goliardaid), er bod olion dylanwad serch llys, wedi ei wrthdroi gan amlaf, i'w gweld yno hefyd.

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Peter Dronke, Medieval Latin and the Rise of European Love-Lyric (Rhydychen: Clarendon Press, 1965). Yr astudiaeth glasurol.
  • Bernard O'Donoghue (gol.), The Courtly Love Tradition (Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion, 1982)