Llenor o ail hanner y 12g a aned yn Ffrainc ac sy'n adnabyddus fel awdures cyfres o gerddi Ffrangeg ar themâu chwedlonol yw Marie de France (fl. diwedd y 12g - dechrau'r 13g). Credir iddi gael ei geni yng ngogledd Ffrainc, efallai yn Normandi, ac iddi dreulio cyfnod sylweddol o'i hoes yng nghylchoedd Normanaidd Lloegr. Mae cynnwys rhai o'i cherddi yn dangos cysylltiad â Llydaw a'i thraddodiadau hefyd.

Marie de France
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Llydaw Edit this on Wikidata
Bu farw13 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, lleian, chwedleuwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLais of Marie de France, Legend of the Purgatory of St. Patrick Edit this on Wikidata
Mudiadmedieval poetry Edit this on Wikidata

Dynes ddiwylliedig oedd Marie, yn medru Ffrangeg, Saesneg a Lladin, ac yn gyfarwydd â thraddodiadau Llydewig am gylch y Brenin Arthur yn ogystal â llenyddiaeth Ladin ganoloesol a chlasurol. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio dangos ei bod yn hanner-chwaer i'r brenin Plantagenaidd Harri II ac iddi fod yn abades ar Abaty Shaftesbury rhwng 1181 a 1215.

Gweithiau llenyddol golygu

Ei gwaith enwocaf yw ei Laïs (cerddi naratifol) am gariad a rhamant o naws ryfeddol a swynol, y credir bod rhai ohonynt yn deillio o ddeunydd "Celtaidd" (h.y. Llydewig). Ceir deuddeg ohonynt, sef:

  • Guigemar
  • Equitan
  • Le Fresne, chwedl ryngwladol am y ferch Griselda
  • Bisclavert
  • Lanval, stori am un o farchogion Arthur sy'n sôn am Gaerlyr (fersiwn Saesneg Canol: Sir Launfal)
  • Les Deus Amanz
  • Yonec, a leolir yn Ne Cymru
  • Laüstic
  • Milun, a leolir yn Ne Cymru
  • Chaitivel
  • Chevrepoil (neu Chèvrefeuil), chwedl am Drystan ac Esyllt a leolir yng Nghernyw
  • Eliduc

Cyfansoddodd hefyd Esope, casgliad o gerddi seiliedig ar foeschwedlau Aesop. Mewn llawysgrifau diweddarach cafwyd yr enw Isopet (ney Ysopet) a daeth hyn i'w arfer fel enw am gasgliadau canoloesol o'r fath yma o chwedlau. Cyfansoddodd hefyd fersiwn Ffrangeg Normanaidd o chwedl Purdan Padrig.

Llyfryddiaeth golygu

  • Marie de France: Lais, gol. A. Ewert (Rhydychen, 1947, 1960)

Dolenni allanol golygu