Lamp
Dyfais sy'n cynhyrchu goleuni yw lamp.[1]
Ffyn ar dân neu farwor mewn pwced neu badell oedd y lampiau cynharaf. Datblygwyd ffaglau i losgi am gyfnodau hirach drwy glymu brigau neu ysgyrion pren resinaidd at ei gilydd â'i trochi mewn braster neu olew. Defnyddiwyd lampiau olew yng Ngroeg yr Henfyd yn y 4g CC, ar ffurf llestri carreg, clai, esgyrn, neu gregyn yn cynnwys olew neu fraster. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd pedyll amgaeedig gyda thwll bychan ar gyfer pabwyr o lin neu gotwm. Gwneuthurwyd lampiau mawr gyda nifer o babwyr i gynhyrchu golau llachar. Yng ngogledd Ewrop, defnyddiwyd potyn carreg agored llawn saim, a phabwyr. Defnyddir lampiau tebyg gan yr Inuit.
Yn y 18g, dechreuwyd defnyddio pabwyr gwastad yn hytrach na'r hen babwyr crynion, gan greu fflam fwy. Yn nechrau'r 19g, cyflwynwyd y lamp nwy i strydoedd ac adeiladau ardaloedd trefol. Bu tair ffurf gyffredin ar lampiau nwy: llosgydd Argand, llosgydd ystlum neu losgydd cynffon pysgodyn, a'r lamp nwy gwynias. Yng nghefn gwlad, lle nad oedd goleunwy ar gael, defnyddiwyd lampiau olew traddodiadol, gyda thanwydd o fraster morfil gan amlaf, nes i Ignacy Łukasiewicz ddyfeisio'r lamp baraffîn fodern yn 1853. Dyfeisiwyd dau fath o lamp drydan, gwynias a fflworoleuol, yn niwedd y 19g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ lamp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.