Lawnslot

(Ailgyfeiriad o Lancelot)

Un o farchogion y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano yw Lawnslot neu Lancelot. Yn y rhain, gelwir ef yn aml yn Lancelot du Lac, ac fel rheol ef yw'r pennaf o farchogion y Ford Gron. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymreig cynnar am Arthur.[1]

Lawnslot
Enghraifft o'r canlynolffigwr chwedlonol, cymeriad llenyddol Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolMarchogion y Ford Gron Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Syr Lawnslot.

Daeth Lawnslot yn adnabyddus trwy waith Chrétien de Troyes, Lancelot ou le Chevalier de la charrette, a ysgrifennwyd rhwng 1177 a 1181. Ffynhonnell bwysig arall oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13g.

Dywedir ei fod yn dod o Lydaw ac yn fab i'r brenin Ban o Benioic, sydd a chastell ger llyn yng nghanol Fforest Broseliawnd. Mae Hector de Maris yn hanner brawd iddo, a'r brenin Bors yn ewythr. Lawnslot yw tad Galahad, un arall o farchogion Arthur.

Yn y fersiynau diweddarach o chwedlau Arthur, cymer Lawnslot ran yn yr ymchwil am y Greal Santaidd, ond gan nad yw'n ddigon pur, dim ond cip ar y Greal a gaiff. Mae Lawnslot yn cynnal carwriaeth a'r frenhines Gwenhwyfar, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas.

Credai R. S. Loomis fod cymeriad Lawnslot wedi datblygu o gymeriad Lloch Llawwynnyawc neu Llenlleawg sy'n ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen ac mewn rhai cerddi cynnar, Pa Gwr yw y porthor a Preiddeu Annwfn, a chredai fod cysylltiad rhyngddo a Lleu Llaw Gyffes a'r duwiau Celtaidd Lugh neu Lugus, ond nid yw'r mwyafrif o ysgolheigion yn derbyn hyn.

Yn y ffilm King Arthur (2004), mae Ioan Gruffudd yn chwarae rhan Lawnslot.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Roc-an-Rôl a'r Arthur Cymreig-Ewropeaidd". amam.cymru. Cyrchwyd 2024-05-27.