Langrigg
Pentrefan yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Langrigg.[1] Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o Aspatria ac i'r de o Abbeytown, ychydig i'r de-orllewin o bentref Bromfield. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Bromfield yn awdurdod unedol Cumberland.
Math | pentrefan |
---|---|
Ardal weinyddol | Bromfield |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.8°N 3.3015°W |
Cod OS | NY163458 |
Cod post | CA7 |
Yn hanesyddol, roedd yn rhan o drefgordd Langrigg a Mealrigg,[2] ym Mhlwyf Bromfield, oedd, ar y pryd, yn blwyf annibynnol rhwng 1894 a 1934.[3][4][5]
Daearyddiaeth
golyguMae Langrigg yn sefyll ar ffordd yr A596.[6] Mae'n gymharol isel, ar eithaf yr hyn a ddisgrifiwyd ar ddiwedd y 18g fel "comin digysur, llwm", er bod y tir o'i gwmpas yn ffrwythlon. Mae'n bosib bod yr enw yn dod o'r Scandinafaidd langr (hir) + hyrrgr (crib) o'r crib o dir sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o Bromfield. [7] Gan fod y pentref yn yr Hen Ogledd a bod ei henw wedi ei gofnodi ym 1189 fel Langrug, mae'n bosib ei fod yn rhannu tarddiad enw a'r Llannau Cymreig (cf Llanrug). Mae afon, a elwir yn Ranny Gill, yn llifo ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r drefgordd yn cwmpasu ardal o 865 ha ac mae'n cynnwys rhan o Bromfield Common.[8] Mae ffrwd a adwaenir yn lleol fel Dub Stangs yn codi i'r gorllewin o Langrigg, ac mae'n llifo i mewn i'r Solway Firth yn Allonby Bay.
Hanes
golyguRhoddodd Waldieve, Arglwydd Allerdale, faenor Langrigg i Dolphin, mab Aylward, a bu ei ddisgynyddion yn ei dal am genedlaethau cyn iddo fynd i deulu a chymerodd eu henw ar ôl y dreflan. [9] Bu Thomas de Langrigg yn dal eiddo yn Langrigg yn ystod teyrnasiad Harri II, Neuadd Langrigg oedd y prif faenordy. [2][7] ceir dogfen yn dweud bod Agnes, gwraig Gilbert de Langrigg, fod "wedi mynu gan John Crookdake 25 erw o dir, 15 erw o ddôl, a thir rhent gwerth 2s 4d yno, ac yn erbyn Thomas de Langrigg 30 erw o dir, a 14 erw o ddôl". [10] Mae'r drefgordd hanesyddol yn cynnwys Bromfield, Greenhow a Crookdale. Deilwyd Crookdale am flynyddoedd gan y teulu Musgrave. [9][10]
Yn ddiweddarach daeth Langrigg yn eiddo i deuluoedd Porter a Osmunderly; roedd y teulu Osmunderly yn hannu o Swydd Gaerhirfryn. [10] Roedd y teulu Porter yn dal y faenor, tra fo'r teulu Osmunderly yn dal y demên. Roedd yn eiddo i William Osmunderly, Siryf Cumberland, yn ystod teyrnasiad Harri IV. [2] Gwerthodd y olaf o'r teulu Osmunderley, y Parchedig Salkend Osmunderely, y faenor i'w fab-yng-nghyfraith Thomas Barwis ym 1735 (credir bod Barwis yn gyfrifol am adfer Neuadd Langrigg).[8] Roedd John Barwis (1775-1818), a oedd hefyd yn rheithor Niton ar Ynys Wyth, yn un o'i berchnogion amlwg,[11] ac roedd ei fab William Barwis, [12] yn parhau i ddal meddiant Langrigg ym 1860. [2] Ym 1876, daeth Joseph Bowerbank o Cockermouth yn berchenog y drefgordd.[8]].
Roedd gan drefgordd Langrigg boblogaeth o 198 ym 1801, 194 ym 1821, 269 ym 1841, a 281 ym 1851. [2]
Daeth trefgordd unedig Langrigg a Mealrigg ym Mhlwyf Bromfield yn blwyf annibynnol yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1894, er ei fod yn parhau i fod ynghlwm wrth Bromfield at ddibenion eglwysig. [4] Mae Fferm Neuadd Langrigg Hall yn cynhyrchu wyau i archfarchnad Morrisons [13].
-
Neuadd Langrigg
-
Threeways, Langrigg
Economi
golyguBu cynhyrchu teils yn ddiwydiant lleol ers y 19 ganrif.[14] Sefydlwyd melin wynt yno hefyd yn y 19 ganrif.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Mawrth 2020
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Whellan 1860, t. 216.
- ↑ Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry. H. Colburn. 1847. t. 63.
- ↑ 4.0 4.1 Bulmer 1901, t. 159.
- ↑ "Bromfield Tn/AP/CP through time". Vision of Britain Organization. Cyrchwyd 25 October 2013.
- ↑ Highways. 69. D.R. Publications Limited. 2000. t. 10.
- ↑ 7.0 7.1 Hutchinson 1794, tt. 299–301.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 "Langrigg and Mealrigg". Cumbria County History Organization. Cyrchwyd 16 October 2013.
- ↑ 9.0 9.1 Lysons 1816, t. 48.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Nicolson, Burn & Nicolson 1777, t. 164.
- ↑ The Gentleman's Magazine. F. Jeffries. 1840. t. 226.
- ↑ Burke & Burke 1847, t. 63.
- ↑ "Langrigg Hall Farm, Cumbria". Morrisons.co.uk. Cyrchwyd 15 October 2013.
- ↑ "Langrigg And Mealrigg". Vision of Britain Organization. Cyrchwyd 16 October 2013.
Llyfryddiaeth
golygu- Bulmer, T. (1901). History, topography, and directory of Cumberland: comprising its history and archaeology : a general view of its physical and geological features, with separate historical and topographical descriptions of each town, parish, manor, and extra-parochial liberty (arg. Public domain). T. Snape.CS1 maint: ref=harv (link)
- Burke, John; Burke, Bernard (1847). A Genealogical and Heraldic Dictionary of the Landed Gentry of Great Britain & Ireland (arg. Public domain). H. Colburn.CS1 maint: ref=harv (link)
- Hutchinson, William (1794). The History of the County of Cumberland: And Some Places Adjacent, from the Earliest Accounts to the Present Time (arg. Public domain). London: F. Jollie.CS1 maint: ref=harv (link)
- Lysons, Samuel (1816). Magna Britannia, a concise topographical account of the several counties of Great Britain, by D. and S. Lysons (arg. Public domain).CS1 maint: ref=harv (link)
- Nicolson, Joseph; Burn, Richard; Nicolson, William; Scott, Daniel; Hornyold-Strickland, Henry (1777). The history and antiquities of the counties of Westmorland and Cumberland (arg. Public domain). Printed for W. Strahan.CS1 maint: ref=harv (link)
- Whellan, William (1860). The History and Topography of the Counties of Cumberland and Westmoreland: With Furness and Cartmel, in Lancashire, Comprising Their Ancient and Modern History, a General View of Their Physical Character, Trade, Commerce, Manufactures, Agricultural Condition, Statistics, Etc., Etc (arg. Public domain). W. Whellan and Company.CS1 maint: ref=harv (link)