Donibane Lohizune
(Ailgyfeiriad o Saint-Jean-de-Luz)
Dinas a chymuned (commune) yng Ngwlad y Basg yng ngwladwriaeth Ffrainc yw Donibane Lohizune (Enw swyddogol Ffrangeg: Saint-Jean-de-Luz, Ocsitaneg: Sent Joan de Lus). Fe'i lleolir yn département Pyrénées-Atlantiques ar arfordir Cefnfor Iwerydd, hanner ffordd rhwng Bayonne i'r gogledd-ddwyrain a'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen i'r de-orllewin. Mae'n un o drefi talaith draddodiadol Lapurdi yn rhan Ffrengig Gwlad y Basg. Llifa Afon Ur Ertsi trwy'r dref.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,601 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Getxo, Bakersfield |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pyrénées-Atlantiques |
Sir | Lapurdi, arrondissement Baiona, Pyrénées-Atlantiques |
Gwlad | Gwlad y Basg Ffrainc |
Arwynebedd | 19.05 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 84 metr |
Yn ffinio gyda | Guéthary, Ahetze, Ascain, Bidart, Ciboure, Senpere |
Cyfesurynnau | 43.3903°N 1.6597°W |
Cod post | 64500 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Saint-Jean-de-Luz |