Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987 ar 11 Mehefin 1987 i ethol 650 o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin Y Deyrnas Unedig. Roedd buddugoliaeth y Blaid Geidwadol y trydydd o'r bron o dan arweinyddiaeth 'haearnaidd' Margaret Thatcher. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers i Robert Jenkinson arwain ei blaid yn 1820 i dair buddugoliaeth o'r bron.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987
|
|
|
|
Trethi isel oedd thema ymgyrch y Ceidwadwyr, gydag economi a byddin gref. Roeddent hefyd yn uchel eu cloch fod diwethdra wedi gostwng o dan 3 miliwn am y tro cyntaf ers 1981 a chwyddiant yn 4% - ei isaf ers 20 mlynedd. Dyma'r blaid roedd y tabloids yn ei chefnogi, yn enwedig y 'Sun', a gynhaliodd ymgyrch gwrth-Lafur am fisoedd cyn yr etholiad, gyda'i phenawdau fel "Why I'm backing Kinnock, by Stalin".
Dychwelodd y Ceidwadwyr i'r Llywodaeth, gyda gostyngiad o 21 sedd yn unig, sef cyfanswm o 376 sedd. 229 oedd gan Llafur, o dan arweinyddiaeth y Cymro gwrth-Gymreig Neil Kinnock.
Crynodeb o'r canlyniadauGolygu
Y seddi a enillwyd (cylch allanol) yn erbyn nifer o bleidleisiau (cylch mewnol)
Canran y bleidlais |
---|
|
|
|
Ceidwadwyr |
|
42.3% |
Llafur |
|
30.8% |
Cynghrair SD-Rhyddfrydwyr |
|
22.6% |
SNP |
|
1.3% |
Unoliaethwyr Wlster |
|
0.9% |
Arall |
|
2.2% |
|
Seddi yn y Llywodraeth |
---|
|
|
|
Ceidwadwyr |
|
57.9% |
Llafur |
|
35.2% |
Cynghrair SD-Rhyddfrydwyr |
|
3.4% |
Unoliaethwyr Wlster |
|
1.4% |
Arall |
|
2.2% |
|