Lleng Rufeinig oedd Legio I Adiutrix. Fe'i sefydlwyd gyntaf gan yr ymerawdwr Nero tn 66, a chadarnhawyd hi fel lleng gan ei olynydd, Galba yn 69. Ei symbol oedd yr afr, neu weithiau Pegasos. Yn ddiweddarach, cafodd yr enw ychwanegol Pia Fidelis.

Denarius o deytnasiad Septimius Severus yn anrhydeddu legio I Adiutrix.

Ymladdodd ei brwydr gyntaf ym mrwydr gyntaf Bedriacum dros Otho yn erbyn Vitellius. Wedi i Vitellius ennill y frwydr, trosgwyddodd y lleng i Sbaen. Yn 70, ymladdodd yn erbyn y Batafiaid, a symudodd i Mainz. Bu'n ymladd yn erbyn y Chatti ar afon Rhein yn 83, ac yn erbyn y Parthiaid dan Trajan yn 115 - 117. Yn ystod rhyfel cartref 193 - 195, rhoddodd y lleng ei chefnogaeth i Septimius Severus. Ceir y cofnod olaf am y lleng yn 444.