Leif Jones
Roedd Leifchild Stratten Leif-Jones, Barwn 1af Rhaeadr, PC (16 Ionawr 1862 - 26 Medi 1939 ), a elwid yn Leif Jones cyn ei ddyrchafiad i'r bendefigaeth ym 1932, yn arweinydd Cymreig o'r mudiad Dirwest ac yn wleidydd Rhyddfrydol.[1]
Leif Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1862 |
Bu farw | 26 Medi 1939 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Thomas Jones |
Mam | Jane Jones |
Cefndir ac addysg
golyguGanwyd Leifchild Stratten Jones ar 16 Ionawr 1862 yn St Pancras, Llundain, y pumed o chwe phlentyn Thomas Jones (1819-1882), clerigwr Annibynnol, gynt o Dreforys, Abertawe, a Jane Jones, merch John Jones o Ddowlais. Ei frodyr a chwiorydd hŷn oedd David Brynmor (g. 1851), Annie, John Viriamu (g. 1862) ac Irvonwy; ei frawd iau oedd Morlais Glasfryn. Byddai ei frodyr David Brynmor Jones a John Viriamu Jones ill dau yn dod i amlygrwydd mewn bywyd cyhoeddus.[2] Ym 1867, pan oedd Leifchild yn bum mlwydd oed, bu farw ei fam, ac ym 1869 gadawodd ei dad Lundain, am resymau iechyd, gan symud yn gyntaf yn ôl i Abertawe (1870-1877) ac wedi hynny i Melbourne, Awstralia (1877-1880), lle cafodd Leifchild ei addysg yn y Scotch College, Melbourne, rhwng 31 Gorffennaf 1877 a Rhagfyr 1878.[3] Wedi hynny aeth Leifchild yn fyfyriwr i Goleg y Drindod, Rhydychen .[4]
Aelod Seneddol ac ymgyrchydd dirwest
golyguRhwng 1905 ac Ionawr 1910 gwasanaethodd Leif Jones fel Aelod Seneddol Appleby, yn Cumbria .[4][5] Tra'n AS, pleidleisiodd o blaid Mesur Rhyddfreinio Merched 1908.[6]
Rhwng mis Rhagfyr 1910 a 1918 gwasanaethodd fel yr Aelod dros Rushcliffe, yn Swydd Nottingham .[4][7] Ym 1917 fe'i codwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.[8] Rhwng 1923 a 1924 ac o 1929 i 1931 gwasanaethodd fel yr Aelod dros Camborne, yng Nghernyw.[4][9]
Ar 25 Ionawr 1932 dyrchafwyd Jones i'r bendefigaeth fel y Barwn Rhaeadr, o Rhaeadr yn Sir Faesyfed.[10] Er mwyn iddo barhau i gael ei adnabod wrth ei enw cyfarwydd 'Leif Jones' penderfynodd yn gynharach yn yr un mis i newid ei gyfenw trwy bôl gweithred o 'Jones' i 'Leif-Jones'.[11]
Er gwaethaf ei yrfa wleidyddol hir, cofir amdano yn bennaf fel arweinydd dirwest. Roedd yn Llywydd Cynghrair Dirwest y Deyrnas Unedig (UKA), y prif sefydliad gwaharddol ym Mhrydain, rhwng 1906 a 1932. Yn gynharach roedd wedi bod yn ysgrifennydd preifat i Iarlles Carlisle, ymgyrchydd gwaharddol amlwg.[12] Fel ymgyrchydd dirwestol cyfeiriwyd at Leif Jones weithiau fel 'Tea-leaf Jones'.
Marwolaeth
golyguBu farw'r Arglwydd Rhayader ym Marylebone, Llundain, ym mis Medi 1939, yn 77 oed, daeth y farwniaeth i ben gyda'i farwolaeth.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fahey, D. (2006, May 25). Jones (later Leif-Jones), Leifchild Stratten, Baron Rhayader (1862–1939), temperance advocate and politician. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 15 Awst 2019
- ↑ Chambers, Ll. G., (1997). JONES, LEIFCHILD STRATTEN LEIF (1862-1939), gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Scotch College Admission Register No.2, Entry 2429
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 thepeerage.com Leifchild Stratten Leif-Jones, 1st and last Baron Rhayader
- ↑ "leighrayment.com House of Commons: Andover to Armagh South". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-05. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ http://hansard.millbanksystems.com/commons/1908/feb/28/womens-enfranchisement-bill-1
- ↑ "leighrayment.com House of Commons: Rochester to Ryedale". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-16. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ London Gazzette 29 Ionawr 1932 Rhif:33794 tudalen:628
- ↑ "leighrayment.com House of Commons: Caernarfon to Cambridgeshire South West". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-07. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ London Gazzette 29 Ionawr 1932 Rhif:33794 Tudalen:628
- ↑ London Gazzette 15 January 1932 Rhif:33790 Tudalen:387
- ↑ Gwybodaeth am Leif Jones yn Alcohol and Temperance in Modern History: Volume I.
Darllen pellach
golygu- D.M. Fahey, 'Leif Jones', yn Biographical Dictionary of Modern British Radicals, Vol. 3 (1870-1974) (1988)
- M.H.C. Haylor, The Vision of a Century, 1853-1953: the United Kingdom Alliance in historical perspective (1953)
- G.B. Wilson, Leif Jones, Lord Rhayader, Temperance Reformer and Statesman (1948)