Les Fleurs du mal
Cyfrol ddylanwadol o gerddi Ffrangeg a gyhoeddwyd yn 1857 gan y bardd Charles Baudelaire (1821–1867) yw Les Fleurs du mal ("Blodau'r Fall"). Dyma gyfrol enwocaf Baudelaire ac un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus o gerddi yn y byd.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Charles Baudelaire |
Cyhoeddwr | Auguste Poulet-Malassis |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 25 Mehefin 1857 |
Dechrau/Sefydlu | 1840 |
Genre | blodeugerdd |
Lleoliad cyhoeddi | Alençon |
Prif bwnc | Symbolaeth (celf) |
Yn cynnwys | Abel et Caïn, Au lecteur, Q16653632 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddodd Baudelaire y cerddi a gyhoeddwyd yn Les Fleurs du mal dros gyfnod o rai blynyddoedd ac mae ambell gerdd - fel y rhai yn yr adran Tableaux parisiens - yn ychwanegiadau a geir yn yr ail argraffiad.
Thema'r casgliad yw'r gwrthdaro rhwng spleen (sef 'drygioni') ac idéal (sy'n cynrychioli 'daioni') sy'n rhwygo meddwl a chalon pobl. Mae Baudelaire yn rhoi heibio'r hen gonfensiynau llenyddol ac artistig am brydferthwch a harddwch ac yn ceisio tynnu hanfod gwir brydferthwch o'r gwrthrychau mwyaf hyll. Disgrifia'r cerddi bywyd strydoedd Paris ganol y 19g neu ddrygioni ei hun, gan roi iddo ryw harddwch afreal eithriadol sy bron iawn a chyrraedd lefel cyfriniol. Yn gorwedd y tu ôl i'r synfyfyriau hyn yw'r synnwyr o golledigaeth sy'n llenwi meddwl y bardd. Ond er i'r cerddi suddo i ddyfnderoedd anobaith a drygioni mae llais y bardd yn mynnu gwaredigaeth erbyn y diwedd gan na all y Fall orchfygu Daioni yn y pen draw.
Enynnodd y llyfr ymateb ffyrnig gan rai, yn bennaf oherwydd ei gyfeiriadau erotig (cymharol ddiniwed ac anuniongyrchol yn ôl safonau heddiw) er nad yw'n waith erotig fel y cyfryw. Cafodd ei sensrio a bu rhaid i Baudelaire a'r cyhoeddwyr wynebu achos llys am gyhoeddi llyfr "anfoesol".
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) s:fr:Les Fleurs du mal: y cerddi i gyd ar wikisource
- (Ffrangeg) Les Fleurs du mal: testun llawn ar-lein i'w llwytho i lawr Archifwyd 2006-02-16 yn y Peiriant Wayback