Charles Baudelaire

Bardd Ffrengig o Baris 1821-1867

Bardd yn yr iaith Ffrangeg oedd Charles Pierre Baudelaire (9 Ebrill 1821 - 31 Awst 1867). Cafodd ei eni ym Mharis.

Charles Baudelaire
GanwydCharles-Pierre Baudelaire Edit this on Wikidata
9 Ebrill 1821 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylrue d'Amsterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Louis-le-Grand
  • Lycée Saint-Louis Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, beirniad celf, awdur ysgrifau, cyfieithydd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd, critig, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLes fleurs du mal, Les Paradis artificiels, Le Peintre de la vie moderne, Réflexions sur quelques-uns de mes contemporains, La Fanfarlo, Le Spleen de Paris Edit this on Wikidata
Arddullelegy, Decadent movement Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEdgar Allan Poe, Emanuel Swedenborg, Joseph de Maistre, Thomas De Quincey, Gustave Flaubert, Victor Hugo, Ofydd, Théophile Gautier Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf) Edit this on Wikidata
TadJoseph-François Baudelaire Edit this on Wikidata
MamCaroline Aupick Edit this on Wikidata
PartnerJeanne Duval Edit this on Wikidata
Gwobr/auCystadleuthau Cyffredinol Edit this on Wikidata
llofnod

Er ei fod yn adnabyddus yn bennaf am ei gerddi synhwyrus fe'i cofir yn Ffrainc am ei gyfieithiad dylanwadol o Tales of Mystery and Imagination gan Edgar Allan Poe, Histoires extraordinaires (1848-1853), yn ogystal.

Dylanwadau golygu

Cafodd y cyfansoddwr Claude Debussy ei ysbrydoli i seilo caneuon ar bum cerdd o gampwaith y bardd Les Fleurs du mal yn ei gylch o ganeuon Cinq poèmes de Charles Baudelaire (1887–9).

Gwaith golygu

  • Salon de 1845
  • Salon de 1846
  • La Fanfario (1847)
  • Les Fleurs du mal (1857)
  • Les Paradis artificiels (1860)
  • Réflexions sur Quelques-uns de mes Contemporains (1861)
  • Le Peintre de la Vie Moderne (1863)
  • Curiosités Esthétiques (1868)
  • L'art romantique (1868)
  • Le Spleen de Paris/Petits Poémes en Prose (1869)

Yn ei gerdd L'Albatros fe greodd Baudelaire fetaffor o'r albatros fel aderyn gosgeiddig a ostyngwyd i lefel rhywbeth digri gan rai anwybodus:

Lui, naguère si beau, qu'il est comique et laid!
[Yntau, unwaith mor osgeiddig, ond mor chwerthinllyd a thrwsgl erbyn hyn....]

Cerdd yw hwn am forwyr yn dal albatros am hwyl, ac yn ei brocio a gwneud hwyl am ei ben. Mae Baudelaire yn y diwedd yn cyffelybu’r bardd i’r truan diymadferth ar fwrdd y llong.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.