Llên Gwerin Sir Gaernarfon

Cyfrol gan John Jones (Myrddin Fardd) yw Llên Gwerin Sir Gaernarfon. Fe'i cyhoeddwyd gan Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, yn Swyddfa 'Cymru', Caernarfon yn 1908 (ni nodir y dyddiad yn y llyfr).[1] Roedd Myrddin Fardd yn hynafiaethydd brwd ac erys ei gasgliad o hen chwedlau a thraddodiadau Arfon yn ffynhonnell werthfawr i efrydwyr Llên gwerin Cymru, yn enwedig am fod llawer o'r cynnwys yn ffrwyth holi ar lafar mewn cyfnod pan oedd nifer o'r pethau hyn yn fyw o hyd yng nghof y werin bobl.

Llên Gwerin Sir Gaernarfon
Wynebddalen Llên Gwerin Sir Gaernarfon
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMyrddin Fardd
CyhoeddwrGwasg y Cyhoeddwyr Cymreig
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1908 Edit this on Wikidata
PwncLlên Gwerin Cymru
Argaeleddallan o brint
GenreCasgliad o chwedlau gwerin
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Mae'r llyfr yn cynnwys casgliad o chwedlau gwerin ardal yr hen Sir Gaernarfon (gorllewin Sir Conwy a gogledd Gwynedd erbyn hyn), wedi'i hel o sawl ffynhonnell, o hen lyfrau, llawysgrifau ac oddi ar lafar gwlad gan yr awdur, ac wedi'u hadrodd ganddo'n gryno gyda sylwadau ac esboniadau. Ceir hefyd wybodaeth helaeth am arferion, gwyliau, defodau a thraddodiadau. Yn ogystal ceir traddodiadau am darddiad enwau lleoedd, ymadroddion, dywediadau, posau a diarhebion.[1]

Dosberthir y chwedlau yn ôl pwnc, sef:

  1. Yr Athronyddol
  2. Y Dull o Fyw
  3. Chwedlau ac Ofergoelion
  4. Argoelion
  5. Ffynhonnau, Llynnau ac Afonydd
  6. Lleoedd ynghyd â'u henwau
  7. Chwedlau Arian Cudd
  8. Hen Gewri
  9. Geiriau, Dywediadau a Diarhebion
  10. Dychymygion (posau) ayyb

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Myrddin Fardd, Llên Gwerin Sir Gaernarfon.

Gweler hefyd golygu