Sylwedd fel jeli a ymddengys yng nghefn gwlad yw pwdre sêr, pwdr sêr neu pwdredd sêr.[1] Gelwir hefyd yn chwyd/chwŷd awyr,[1][2] chwyd sêr,[1] grifft sêr yn Ne Cymru,[1][3] cap glas yn y Gogledd,[1] syrth awyr,[1] tripa'r sêr yn y De Ddwyrain,[1] llwtrach y sêr,[4] a godro'r sêr yn Nyfed.[5] Fe'i elwir hefyd yn Tremella meteorica, term Lladinaidd ffug-fiolegol sy'n cyfeirio at y genws o ffwng Tremella a'r cred bod y sylwedd yn dod o'r gofod. Yn ôl llên gwerin, ymddangosa'r sylwedd yn sgil cawod o sêr gwib (awyrfeini).

Nid oes sicrwydd ynglŷn ag esboniad gwyddonol pwdre sêr. Yn ôl y naturiaethwr Cymreig Thomas Pennant, chwŷd anifeiliaid yw'r sylwedd.[6] Yn ôl eraill, y syanobacteriwm Nostoc yw pwdre sêr.[7]

Nostoc golygu

Math o syanobacteria (blue-green alga). Fe gaiff hwn yr enw pwdre'r sêr gan rai, am ei fod yn ymddangos yn sydyn fel petai wedi disgyn o'r nen. Yr enw Saesneg arno yw mares’ eggs - maent yn edrych fel swigod crwn cyn iddynt fyrstio, fel sydd wedi digwydd yn y ddelwedd. Mae'r anifail/planhigyn yma yn gyffredin mewn pyllau dŵr, ac yn ymddangos ar wyneb y ddaear lle mae’n wlyb, yn aml yn tyfu ar y palmant, lle mae dŵr glaw yn llifo.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Geiriadur yr Academi, [star jelly].
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, [chwŷd].
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, [grifft].
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru, [llwtrach].
  5. Geiriadur Prifysgol Cymru, [godro].
  6. (Saesneg) Pilkington, Mark (13 Ionawr 2005). The blobs. The Guardian. Adalwyd ar 25 Awst 2014.
  7. (Saesneg) RSPB Ham Wall 'slime' baffles experts. BBC (18 Chwefror 2013). Adalwyd ar 25 Awst 2014.
  8. Sion Roberts, Bwletin Llên Natur rhifyn 58 (Rhagfyr 2012 ar ôl cyfnod gwlyb)[1]