Llangrannog a Fi
Hunangofiant gan Steff Jenkins ac Elin Williams yw Llangrannog a Fi a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]
Awdur | Steff Jenkins a Elin Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781785621284 |
Ymddeolodd Steff Jenkins yn ddiweddar wedi cyfnod hir o wasanaeth yn gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog.
Yr awdur
golyguUn o'r Creunant yw Steff Jenkins yn wreiddiol. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac yno y dechreuodd y daith tuag at Langrannog. Mae'r Urdd wedi bod yn rhan annatod o fywyd Steff ers ei ddyddiau ysgol. Bu'n swog a staff haf am bum mlynedd cyn cael swydd llawn amser gyda'r Urdd fel Trefnydd Ardal Sir Benfro yn 1975. Wedi cyfnod brysur o drefnu gigs, mabolgampau, eisteddfodau a chyfnodau preswyl daeth cyfle yn 1978 iddo fel Dirprwy Reolwr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a dyma oedd dechrau ar gyfnod hapus a hir yn Llangrannog.
Yn Llangrannog y cyfarfu a'i wraig, Enfys Beynon Thomas, gan ymgartrefu gyda hi dafliad carreg o'r gwersyll a magu teulu yno. Wedi dros 40 mlynedd o wasanaeth gyda Urdd Gobaith Cymru, ymddeolodd yn Awst 2015. Mae Elin Williams yn dod o ardal Llanbedr Pont Steffan ac yn gyn-athrawes Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Teifi. Mae Steff ac Elin yn ffrindiau ac wedi cael hwyl fawr iawn ar gydweithio ar y gyfrol.