Llannerch (cwmwd)
- Erthygl am y cwmwd yn Nyffryn Clwyd yw hon. Am y cwmwd ym Mhowys, gweler Llannerch Hudol. Gweler hefyd Llannerch.
Cwmwd canoloesol yng nghantref Dyffryn Clwyd, gogledd-ddwyrain Cymru, oedd Llannerch. Gyda Colion a Dogfeiling, roedd yn un o dri chwmwd y cantref hwnnw.
Gorweddai Llannerch yn ne-ddwyrain Dyffryn Clwyd. Ffiniai â Dogfeiling a Colion i'r gorllewin, o fewn yr un cantref, darn o Edeirnion i'r de, ac Iâl i'r dwyrain.
Roedd yn gwmwd coediog gyda'r tir uchel ar lethrau Bryniau Clwyd, gan ddisgyn oddi yno i lawr pen uchaf Dyffryn Clwyd ei hun, lle ceid y tir amaethyddol gorau.
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, aeth Llannerch, fel gweddill y cantref, yn rhan o arglwyddiaeth Rhuthun. Ceir manylion am y cwmwd yn y 'stent' (arolwg ar gyfer y Goron) o'r arglwyddiaeth yn 1324, sy'n cynnig deunydd gwerthfawr i'r hanesydd am fywyd pobl gyffredin yn y cyfnod hwnnw.
Aeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Ddinbych newydd yn 1536. Gorwedd o hyd yn y sir honno, er nad ydyw'n uned o unrhyw fath heddiw.