Llenyddiaeth Normaneg Lloegr
Llenyddiaeth a ysgrifennid yn Eingl-Normaneg, tafodiaith Seisnig yr iaith Normaneg, o'r 11g i'r 15g yw llenyddiaeth Normaneg Lloegr neu lenyddiaeth Eingl-Normaneg. Daeth yr iaith i Loegr yn sgil goresgyniad y Normaniaid yn 1066. Normaneg oedd iaith swyddogol y llys brenhinol o deyrnasiad Harri I hyd at farwolaeth Harri IV yn 1413, ac felly'n iaith y gyfraith a dogfennau swyddogol. Fel mamiaith y frenhiniaeth, enillodd statws mawreddog ymhlith yr uchelwyr. Er hynny, parhaodd Saesneg Canol yn iaith y werin a'r bonedd, a Ffrangeg a Lladin yn ieithoedd y prifysgolion hyd at ganol y 14g.[1]
Ar wahân i ddeddfau a dogfennau'r llywodraeth, hanes a llên grefyddol oedd y rhan fwyaf o'r hyn a ysgrifennid yn Eingl-Normaneg. Y prif weithiau hanesyddol a bywgraffyddol yw croniclau mydryddol Geffrei Gaimar, Histoire des Bretons ac Estorie des Engles, ac amryw fucheddau'r saint. Cyfieithwyd rhai ohonynt o Ladin, er enghraifft bucheddau Edward Gyffeswr a Thomas Becket. Ysgrifennwyd hefyd nifer o homilïau, ac ambell ramant, cerdd alegorïaidd (er enghraifft Bestiaire gan Philip de Thaun), a fabliau. O ran gweithiau anghrefyddol, nodir y bardd Thomas d'Angleterre am ei fersiwn o chwedl Trystan ac Esyllt yn y 12g.
Wedi Pedwerydd Cyngor y Lateran yn 1215 a Chyngor Rhydychen yn 1222, cynhyrchwyd llawer o weithiau defosiynol, moesol, a didactig i addysgu Cristnogion drwy gyfrwng yr Eingl-Normaneg.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edward D. English, Encyclopedia of the Medieval World (Efrog Newydd: Facts On File, 2005), t. 42.
- ↑ (Saesneg) Anglo-Norman literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mawrth 2019.
Darllen pellach
golygu- Jean Blacker, The Faces of Time: Portrayal of the Past in Old French and Latin Historical Narrative of the Anglo-Norman Regnum (Austin: University of Texas Press, 1994).
- M. Dominica Legge, Anglo-Norman Literature and Its Background (Rhydychen: Clarendon Press, 1963).