Llenyddiaeth Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau

Y wasg (1885–1945) golygu

Y wasg boblogaidd oedd prif gyfrwng diwylliannol y mewnfudwyr Iddew-Almaeneg i Unol Daleithiau America yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Yn 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Ninas Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[1] Un o'r prif gyhoeddiadau oedd Yidishes Tageblat, y papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg cyntaf yn y byd.

Barddoniaeth (1880au–1945) golygu

 
Tudalen deitl y Lieder Buch (1897) gan Morris Rosenfeld, gyda llun o'r bardd ar y dudalen gyferbyn.

Yn niwedd y 19g, beirdd y slafdai, fel y'i gelwir, oedd y cyntaf i fynegi stad y mewnfudwyr tlodion a'u trafferthion wrth ymaddasu i'r ffordd Americanaidd o fyw. Yn eu plith oedd Morris Rosenfeld (1862–1923) o Wlad Pwyl, teiliwr wrth ei grefft a gafodd brofiad o'r amodau garw mewn gweithdai dillad Efrog Newydd, a Morris Winchevsky (1856–1932) o Lithwania, a fu hefyd yn newyddiadurwr sosialaidd a gyhoeddai sawl papur newydd adain-chwith yn yr Iddew-Almaeneg. Rhoddir yr enw "Beirdd Proletaraidd" ar Winchevsky, Rosenfeld, David Edelstadt (1866–92), a Joseph Bovshover (1873–1915), am eu bod i gyd yn cyfansoddi cerddi am y dosbarth gweithiol Iddewig, gydag agenda radicalaidd o'i blaid.[2]

Ar droad y ganrif, daeth sawl ysgol farddonol arall i'r amlwg. Canolbwyntiai'r mudiad Yiddishkeit ("Iddewigrwydd") ar draddodiad ac hunaniaeth Iddewig yn y byd modern. Un o ladmeryddion yr hwnnw oedd Abraham Reisen (1876–1953), a ymsefydlodd yn Efrog Newydd ym 1914, awdur nifer o straeon byrion sydd yn portreadu'r amryw wrthdaro beunyddiol mewn bywydau'r Iddewon tlodion. Y ddwy brif ysgol o feirdd modernaidd oedd Di Yunge ("Yr Ieuenctid") ac In Zich ("Ynddo'i Hun") neu Di Inzikhistn ("Y Mewnsyllwyr"). Pwysleisiwyd symbolaeth mewn barddoniaeth Di Yunge, er enghraifft gwaith Moyshe-Leyb Halpern (1886–1932). Sefydlwyd y mudiad In Zikh yn sgil ysgrifennu'r maniffesto Introspektivizm gan Jacob Glatstein (1896–1971), N. B. Minkoff (1893–1958), ac Aaron Glanz-Leyeles (1889–1966) a chyhoeddi'r flodeugerdd In Zikh, A Zamlung Introspektive Lider (1920). Glatstein oedd golygydd In zikh (1920–39), prif gylchgrawn y garfan hon o feirdd modernaidd.

Rhyddiaith (1880au–1945) golygu

Ymhlith yr awduron straeon byrion yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g oedd Leon Kobrin (1873–1946), Isaac Leib Peretz (1852–1915), Sholem Asch (1880–1957), ac Sholem Aleichem (1859–1916).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.
  2. Sostene Zangari, "Yiddish" yn Multicultural America cyfrol 4, golygwyd gan Carlos E. Cortés a Jane E. Sloan (Los Angeles: SAGE, 2013), tt. 2213–4.