Theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau
Un o brif feysydd diwylliannol yr iaith Iddew-Almaeneg yn Unol Daleithiau America oedd y theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau a flodeuai yn Ninas Efrog Newydd yn bennaf o'r 1880au hyd at y 1940au. Iddew-Almaeneg oedd iaith frodorol y mwyafrif helaeth o'r Iddewon Ashcenasi a ymfudasant o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop i'r Unol Daleithiau yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.
Y cyfnod cynnar
golyguYn 1876 sefydlwyd y cwmnï theatraidd cyntaf yn y byd ar gyfer perfformiadau drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg gan Abraham Goldfaden yn Iași, Tywysogaeth Rwmania, ac yn 1878 fe sefydlodd y chwaraedy Iddew-Almaeneg cyntaf yn Odessa, Ymerodraeth Rwsia. Ymledodd y theatr Iddew-Almaeneg ar draws Ewrop, ac ymhen fawr o dro i'r Unol Daleithiau, ac yno yn ardal de-ddwyrain Manhattan, un o fwrdeistrefi Dinas Efrog Newydd a chanolfan ddiwylliannol yr Americanwyr Iddewig. Yn y 1880au, mynychodd Iddewon Efrog Newydd chwaraedai ar stryd y Bowery a oedd yn cynnal perfformiadau vaudeville a dramâu Almaeneg, er yr Iddew-Almaeneg oedd yn famiaith i nifer ohonynt. Y gwaith Iddew-Almaeneg cyntaf i'w berfformio ar lwyfan yn yr Unol Daleithiau oedd די מכשפה (Koldunye, "Y Wrach"), opereta gan Goldfaden, a gynhyrchwyd gan Boris Thomashefsky, gweithiwr ffatri yn ei arddegau a ymfudodd o'r Wcráin yn 1881. Fe'i cynhaliwyd yn Turn Hall, ger y Bowery, yn 1882, gydag actorion a oedd newydd gyrraedd o Ewrop. Er i rai Iddewon crachaidd wrthwynebu diwylliant yn iaith y werin, cafodd Thomashefsky lwyddiannau hynod gyda'i gynyrchiadau ac efe oedd impresario cyntaf y theatr Iddew-Almaeneg yn Efrog Newydd. Fe berfformiodd ar y llwyfan hefyd, a daeth yn eilun matinée mewn dramâu megis The Yeshiva Student ac Alexander Crown Prince of Jerusalem.[1]
Blodeuai theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn modd nad oedd yn bosib yn Ymerodraeth Rwsia, lle bu sensoriaeth yn atal twf diwylliant o'r fath. Erbyn 1883, gwaharddwyd perfformiadau Iddew-Almaeneg yn yr ymerodraeth, ac o ganlyniad ymfudodd rhagor o berfformwyr i'r Unol Daleithiau. Ymgasglent yn y Lower East Side ym Manhattan, a ddatblygodd yn ganolfan ryngwladol y theatr Iddew-Almaeneg gyda nifer o chwaraedai a chwmnïau yn cystadlu am gynulleidfaoedd yn y Bowery a'r cyrion. Cynhaliwyd perfformiadau newydd drwy gyfrwng yr iaith, gan gynnwys operetâu gyda themâu Beiblaidd a melodramâu yn ymwneud â bywyd mewnfudwyr.[1] Yn ogystal â gweithiau gwreiddiol gan ddramodwyr Iddewig, perfformiwyd clasuron y theatr Ewropeaidd drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg ar gyfer cynulleidfaoedd o Iddewon Americanaidd, gan gynnwys addasiadau poblogaidd o Shakespeare gydag elfennau wedi eu "Hiddeweiddio". Ysgrifennwyd amrywiaeth o ddramâu yn Iddew-Almaeneg, yn nodweddiadol o uwchddiwylliant ac isddiwylliant, gan gynnwys sioeau sentimental neu gynhyrfus, dramâu hanesyddol, a gweithiau realaidd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol. Sbardunwyd dadleuon cyhoeddus ynglŷn â goblygiadau moesol, gwleidyddol, ac esthetaidd diwylliant poblogaidd gan y theatr Iddew-Almaeneg, a chafodd ddylanwad grymus ar foderneiddio bywydau'r mewnfudwyr Iddewig yn yr Unol Daleithiau.[2]
Mudiadau amrywiol
golyguErbyn dechrau'r 20g, saif o leiaf deuddeg theatr Iddew-Almaeneg gyda 2000 o seddi yn y Lower East Side ac yn ardal Harlem yng ngogledd Manhattan, ac ym mwrdeistrefi Brooklyn a'r Bronx. Codwyd y chwaraedy cyntaf ar gyfer perfformiadau Iddew-Almaeneg yn unig, y Grand Street Theater, yn 1903, ac adeiladwyd rhagor ohonynt ar Second Avenue a strydoedd eraill. Second Avenue oedd yn ganolbwynt i'r hyn a elwid Ardal y Theatr Iddew-Almaeneg, neu'r Rialto Iddewig, ym Manhattan. Datblygodd y theatr Iddew-Almaeneg mewn dinasoedd Americanaidd eraill, gan gynnwys Philadelphia, Chicago, Detroit, a Boston, a bu chwaraedai yn cynnal perfformiadau gan sêr ar daith yn ogystal â chwmnïau preswyl.[3]
Yn ogystal â pherfformiadau byw, roedd recordiadau sain a cherddoriaeth ddalen yn boblogaidd ymysg mynychwyr theatr oedd yn awyddus i fwynhau'r diwylliant hwn yn eu cartrefi.[2]
Realaeth gymdeithasol
golyguArloeswyd y mudiad realaeth gymdeithasol yn theatr Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau gan y sosialydd Jacob Gordin, a ymfudodd i Efrog Newydd yn 1891. Ymdrechodd i amlygu arddull realaidd celfydd yn ei waith yn ogystal â mynegi ei daliadau sosialaidd. Ymddangosodd yr actor Jacob P. Adler mewn nifer o'i ddramâu, gan gynnwys Siberia, God, Man and Devil, a The Wild Man.[1]
Theatr gerdd
golyguBu'r theatr gerdd Iddew-Almaeneg ar ei hanterth yn y 1910au, y 1920au, a'r 1930au. Cyfansoddwyd sgorau i'w llwyfannu gan gyn-fyfyrwyr y conservatoires, yn eu plith Joseph Rumshinsky, Alexander Olshanetsky, Abraham Ellstein, a Sholem Secunda. Tinc o alawon y traddodiad Hasidig sydd gan ganeuon sioe Rumshinsky, yr hwn sydd bennaf gyfrifol am gyflwyno'r pwll cerddorfa i'r theatr Iddew-Almaeneg. Cafodd Olshanetsky lwyddiant ysgubol gyda'r gân "I Love You Much Too Much", a gyfansoddwyd ar gyfer y sioe "The Organ-grinder". Ymhlith sêr y theatr gerdd Iddew-Almaeneg oedd Molly Picon, Luba Kadison, a Menasha Skulnik.[4]
Dirywiad
golyguYn sgil yr Ail Ryfel Byd, newidiodd statws yr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn dwy ffordd. Dirywiodd y niferoedd o Americanwyr Iddewig a oedd yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol, wrth iddynt gymhathu at y diwylliant Saesneg. Ar yr un pryd, enillodd Iddew-Almaeneg safle bwysig yn yr ymwybyddiaeth Iddewig, fel iaith symbolaidd er cof am y miliynau o siaradwyr a lofruddiwyd gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Holocost. Nid oedd bellach yn iaith mewnfudwyr, ond yn iaith etifedd a werthfawrogwyd gan y genedlaethau ifainc a anwyd yn y wlad fel mamiaith yr hen do. Profodd y theatr Iddew-Almaeneg, a phob agwedd arall o ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, ddirywiad araf. Caeodd Maurice Schwartz ddrysau'r Yiddish Art Theatre yn 1950, wedi 32 tymor o berfformiadau.[5]
Yn y 1950au, cynhyrchodd Jacob Jacobs gyfieithiadau Iddew-Almaeneg o sioeau Broadway yn chwaraedai Second Avenue, gan gynnwys The Student Prince ac Anna Lucasta, ac enillodd Joseph Buloff glod am drosi'r ddrama Death of a Salesman gan Arthur Miller. Adloniant amrywiaethol a theatr fiwsig a oedd yn boblogaidd yn y 1960au a'r 1970au, a serennodd Molly Picon mewn rhagor o sioeau cerdd comedi megis The Kosher Widow ac A Cowboy in Israel. Yn 1973 cafwyd y sioe ysgubol lwyddiannus olaf yn hanes theatr Iddew-Almaeneg Second Avenue: Hard to Be a Jew gan Sholem Aleichem, gyda cherddoriaeth gan Sholem Secunda ac yn serennu Joseph Buloff a Miriam Kressyn. Erbyn 1977, nid oedd yr un chwaraedy Iddew-Almaeneg yn sefyll yn y Lower East Side.[5] Dau gwmni theatraidd yn unig sydd o hyd yn cynnal perfformiadau Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, y ddau ohonynt o Efrog Newydd: National Yiddish Theater Folksbiene (NYTF) a'r New Yiddish Rep.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Caraid O’Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 455.
- ↑ 2.0 2.1 Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.
- ↑ O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 455–6.
- ↑ O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 456.
- ↑ 5.0 5.1 O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 457.
Darllen pellach
golygu- Luba Kadison, Joseph Buloff, ac Irving Genn, Onstage, Offstage: A Lifetime in the Yiddish Theater (Harvard University Press, 1992).
- David S. Lifson, The Yiddish Theatre in America (Cranbury, NJ: Yoseloff, 1965).
- Nahma Sandrow, Vagabond Stars: A World History of Yiddish Theater (Efrog Newydd: Harper and Row, 1977).