Eigra Lewis Roberts

nofelydd, dramodydd a storïwr

Nofelwraig, dramodydd a storiwraig Cymreig ydy Eigra Lewis Roberts (ganwyd 7 Awst 1939).

Eigra Lewis Roberts
Ganwyd7 Awst 1939 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, dramodydd, cyfarwydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd a mynychodd Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg Prifysgol Bangor. Bu'n dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.[1]

Gyrfa golygu

Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Brynhyfryd, pan oedd ond yn ugain oed a chyhoeddwyd ei llyfr cyntaf yn y Saesneg, Return Ticket, yn 2006. Mae hi'n awdur nodedig sydd yn cael clod fel un o awduron pwysicaf yn y Gymraeg yn yr 60au a'r 70au[2], erbyn hyn mae wedi cyhoeddi tua 30 o lyfrau, yn nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu. Derbyniodd un o ysgoloriaethau’r Academi Gymreig ar gyfer awduron yn 2006.[3]

Yn yr 1980au roedd hi'n sgriptiwr ar y gyfres deledu boblogaidd, Minafon.[1]

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yn Nolwyddelan.[4]. Mae'n briod a Llew ac mae ganddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion.[1]

Gwobrau ac Anrhydeddau golygu

Llyfrau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Eigra Lewis Roberts. BBC Lleol. Adalwyd ar 20 Mehefin 2016.
  2. "Welsh Writing 1960-1985, Ned Thomas, transcript-review.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 2007-12-06.
  3. "DATGANIAD I'R WASG 2006, Academi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-14. Cyrchwyd 2007-12-06.
  4. "Bywgraffiad ar wefan Gwasg Gomer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2007-12-06.
  5. Eigra'n cipio'r Goron BBC Cymru 7 Awst 2006
  6. "Graddedigion er Anrhydedd, Prifysgol Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-20. Cyrchwyd 2007-12-06.