Llewpart (gwyfyn)

Zeuzera pyrina
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Cossidae
Genws: Zeuzera
Rhywogaeth: Z. pyrina
Enw deuenwol
Zeuzera pyrina
Linnaeus, 1761

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Cossidae yn urdd y Lepidoptera yw llewpart, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llewpartiaid; yr enw Saesneg yw Leopard Moth, a'r enw gwyddonol yw Zeuzera pyrina.[1][2] Mae i'w ganfod drwy Ewrop, ac yng Ngogledd America ers 1879: o Maine i Pennsylvania.

Mae'n eithaf hawdd adnabod y gwyfyn hwn oherwydd ei thoracs gwyn, ffyri efo 6 smotyn du arno. Mae ganddo adenydd gwyn hefyd gyda smotiau arnyn nhwythau. 35–60 mm ydy lled ei adenydd ac mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Mehefin a Medi, yn ddibynnol ar ei leoliad.

Prif fwyd golygu

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r llewpart yn lindysyn sy'n bwydo tu fewn i ganghennau coed a llwyni, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.