Lliniaru meintiol
Polisi ariannol anghonfensiynol yw lliniaru meintiol, y cyfeirir ato'n aml fel "QE" (o'r enw Saesneg quantitative easing), sydd yn cael ei ddefnyddio gan fanciau canolog yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Parth Ewro ers tua 2007 gyda'r bwriad o gynyddu faint o arian sy'n cylchredeg yn yr economi a lleihau chwyddiant er mwyn hybu'r economi a'i thynnu allan o'r dirwasgiad a ddechreuodd gyda'r argyfwng economaidd yn 2007.[1]
Mae banc canolog yn gweithredu lliniaru meintiol drwy brynu asedau ariannol o fanciau masnachol a sefydliadau corfforaethol a phreifat eraill gan godi prisiau'r asedau ariannol hynny a gostwng eu cynnyrch tra ar yr un pryd gynyddu'r sylfaen ariannol. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniaeth i'r polisi mwy arferol o brynu a gwerthu bondiau llywodraeth tymor-byr er mwyn cadw graddfau llog cydrwng banciau at werth penodol.
Beirniadaeth
golyguAnghyfiawnder cymdeithasol
golyguMae llawer o bobl yn beirniadu'r polisi hwn am yr effaith mae'n cael ar bobl llai breintiedig. Mae ffyndiau pensiwn yn dioddef gyda gwerth go-iawn pensiynau yn gostwng. Mae pobl cyffredin sydd â swm bach o arian mewn cyfrif banc yn gweld eu cynilion yn aros yn eu hunfan neu'n colli gwerth.[2]
Mae prisiau tai yn codi hefyd gyda'r canlyniad bod pobl ifainc yn eu cael yn gynyddol anodd i brynu tŷ cyntaf tra bod y rhai sy'n perchen mwy nag un tŷ, e.e. buddsoddwyr eiddo, yn elwa.
Mae adroddiad gan Banc Lloegr yn dangos mai'r cyfoethogion yn y DU sydd wedi elwa'n bennaf o'r polisi QE, gyda 40% o'r cynnydd a welwyd yn yr economi yn mynd i 5% o deuluoedd y DU.[3] Honnir mai ffordd o ailddosbarthu cyfoeth i'r rhai sy'n gyfoethog iawn yn barod a hynny ar draul y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol yw QE a'i fod felly yn achos sylfaenol anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol.[4]
Gwledydd BRICS
golyguMae'r gwledydd BRICS (Brasil, Rwsia, India, Tsieina a De Affrica) wedi beirniadu polisïau QE banciau canolog y Gorllewin. Maent yn dweud bod y polisïau hyn yn gyfystyr ag 'amddiffyniaeth' (protectionism) a dadchwyddiant cystadleuol. Fel allforwyr net gyda'u harian cyfred wedi'i ieuo wrth werth y doler, cwynant fod QE yn achosi chwyddiant yn eu gwledydd hwy ac yn cosbi eu diwydiannau.[5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Loose thinking", The Economist. 15 Hydref 2009.
- ↑ M. Nicolas J. Firzli, dydynwyd gan Sinead Cruise (4 Awst 2012). "'Zero Return World Squeezes Retirement Plans'". Reuters gyda CNBC. Ad-dalwyd 5 Awst 2012.
- ↑ Elliott, Larry (23 August 2012). "Britain's richest 5% gained most from quantitative easing – Bank of England". London: The Guardian. Ad-dalwyd 21 Mai 2013.
- ↑ Frank, Robert. "Does Quantitative Easing Mainly Help the Rich?". CNBC. Ad-dalwyd 21 Mai 2013.
- ↑ John Paul Rathbone a Jonathan Wheatley, "Brazil's finance chief attacks US over QE3", Financial Times, 20 Medi 2012.
- ↑ Richard Blackden, "Brazil president Dilma Rousseff blasts Western QE as monetary tsunami", The Telegraph, 10 Ebrill 2012.