Llinos bengoch fechan
Llinos bengoch fechan Acanthis flammea cabaret | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Acanthis[*] |
Rhywogaeth: | Acanthis cabaret |
Enw deuenwol | |
Acanthis cabaret | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn ac is-ywogaeth o adar yw Llinos bengoch fechan (enw lluosog: llinosiaid pengoch bychain, sy'n enw benywaidd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Acanthis flammea cabaret; yr enw Saesneg arno yw Lesser redpoll. Mae'n perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Arferid ei ystyried yn is-rywogaeth o'r Llinos Bengoch Gyffredin (Carduelis flammea), ond mae nifer o awdurdodau yn awr yn ei ystyried yn rhywogaeth ar wahan.[2] Mae'n nythu ar draws rhan helaeth o ogledd a chanolbarth Ewrop, ac mae'n bur gyffredin yn Seland Newydd.
Aderyn yn perthyn i'r teulu Fringillidae yw'r Llinos Bengoch Leiaf (Carduelis cabaret). O ran maint, mae'n llai na'r Llinos Bengoch Gyffredin, 11.5-12.5 cm o hyd[3] a 20-22.5 cm ar draws yr adenydd,[4] ac mae'n fwy brown. Mae'r talcen coch yn nodweddiadol. Yng Nghymru, y rhywogaeth yma yw'r llinos bengoch gyffredin.[5]
Mae'r llinos bengoch fechan, a dalfyrir yn aml yn A. flammea cabaret, neu'r enw rhywogaeth, i'w ganfod yng nghyfandir Ewrop.
Teulu
golyguMae'r llinos bengoch fechan yn perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Amacihi bach | Magumma parva | |
Q777369 | Carpodacus waltoni eos | |
Hesperiphona abeillei | Hesperiphona abeillei | |
Llinos euraid | Linurgus olivaceus | |
Llinos sbectolog | Callacanthis burtoni | |
Parotbig Hawaii | Psittirostra psittacea | |
Pinc eurben | Pyrrhoplectes epauletta | |
Po’owli | Melamprosops phaeosoma |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Avibase: Lesser Redpoll. Adalwyd 29 Gorffennaf 2012.
- ↑ Clement, Peter; Alan Harris & John Davies (1993) Finches and Sparrows: An Identification Guide, Christopher Helm, Llundain.
- ↑ Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 2, Oxford University Press, Rhydychen.
- ↑ Green, Jonathan (2002) Birds in Wales: 1992-2000, Cymdeithas Adaryddol Cymru.