Llofruddiaeth Lynette White
Un o achosion mwyaf amlwg a dadleuol yn hanes Heddlu De Cymru oedd llofruddiaeth Lynette White.[1][2] Cafodd White ei lladd yn ei fflat yng Nghaerdydd ar Ddydd San Ffolant 1988 a chafodd tri dyn, Steven Miller, Yusef Abdullahi, a Tony Paris, eu carcharu am y drosedd ym 1990. Cawsant eu rhyddhau ym 1992 yn dilyn apêl.
Enghraifft o'r canlynol | llofruddiaeth |
---|---|
Dyddiad | 14 Chwefror 1988 |
Lleoliad | Caerdydd |
Yn 2003, pymtheg mlynedd wedi'r llofruddiaeth, cafwyd Jeffrey Gafoor yn euog o ladd White gan ddefnyddio tystiolaeth DNA.
Arweiniodd yr achos at feirniadaeth o ddulliau Heddlu'r De (ynghŷd ag achosion eraill o gamweinyddu cyfiawnder yn Ne Cymru)[3] ac at ddealltwriaeth bellach o bwysigrwydd tystiolaeth fforensig wrth broffilo troseddwyr.[4]
Llofruddiaeth
golyguCafodd corff Lynette White, putain 20 oed, ei ddarganfod ar 14 Chwefror, 1988 yn ei fflat uwchben siop fetio yn Heol Iago,[5] Nhrebiwt, Caerdydd.[6] Roedd wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau ac roedd ei gwddf a'i harddyrnau wedi eu torri;[1] fe geisiodd y llofrudd torri ei phen hi.[7]
Achos Tri Caerdydd
golyguYn Nhachwedd 1990 cafwyd tri dyn o Gaerdydd, Yusef Abdullahi, Steve Miller a Tony Paris – a elwir yn Dri Caerdydd – yn euog o lofruddiaeth White a chawsant eu carcharu am oes.[1]
Ymchwiliad newydd
golyguAr gais Heddlu'r De, dechreuodd y cyn Dditectif Uwch Arolygydd Bill Hacking o Heddlu Swydd Gaerhirfryn adolygu'r ymchwiliad gwreiddiol i'r llofruddiaeth ym Mehefin 1999, ar ôl i dditectifs ddatgan y gallai datblygiadau yng ngwyddoniaeth DNA helpu i ddatrys yr achos.[8] Ar 8 Medi 2000 trafododd Heddlu'r De canlyniadau'r adolygiad a benderfynwyd cychwyn ymchwiliad newydd.[9]
Dechreuodd Heddlu De Cymru ymchwiliad newydd ym Medi 2000 gyda 16 o heddweision yn gweithio ar yr ymchwiliad[2] o dan arweiniad y Ditectif Uwcharolygydd Kevin O'Neill.[9] Yn Ionawr 2002 cyhoeddodd eu bwriad i gymryd samplau DNA o'r 5000 o bobl gafodd eu holi fel rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol;[10] bu rhaid i'r samplau gael eu rhoi yn wirfoddol drwy gymryd sampl o'r geg.[11] Rhoddodd y pum dyn a gafodd eu cyhuddo yn wreiddiol o ladd White, yn cynnwys Tri Caerdydd, i gyd samplau o'u DNA ond nid oedd yr un ohonynt yn cysylltu â'r llofruddiaeth.[1] Yn Ebrill 2002 cynhalodd Heddlu'r De brofion sain gan ddefnyddio peiriant digidol i ailgreu sgrechiadau White y noson y gafodd ei llofruddio, er mwyn ceisio cadarnhau a allai tystion wedi eu clywed.[12]
Darganfyddodd yr heddlu sampl o DNA o dan baent ar sgertin[13] ar waelod wal yn y fflat lle fu farw White ac anfonwyd i gwmni fforensig annibynnol, Forensic Alliance, yn Rhydychen i'w ddadansoddi. Daeth gwyddonwyr y cwmni o hyd i olion DNA dyn nad oedd wedi'i holi mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, a rhoddwyd yr enw "Dyn Seloffen" ar y proffil newydd hwn. Dim ond tua 1-2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig oedd ag un o elfennau'r sampl DNA, felly chwiliodd y gwyddonwyr y gronfa ddata DNA genedlaethol a daethant o hyd i 600 o bobl oedd ganddyn nhw'r elfen hon. Cyfyngwyd y rhestr i 70 o bobl, ac roedd un ohonynt, bachgen 14 oed nad oedd wedi ei eni pan lofruddiwyd White, "yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw'r gweddill" yng ngeiriau un o'r arbenigwyr. Aeth yr heddlu ati i gasglu tystiolaeth DNA gan deulu'r bachgen a chafwyd cyfatebiaeth berffaith i'r "Dyn Seloffen" gan sampl DNA o geg un o'i berthnasau agos, Jeffrey Gafoor.[5]
Achos yn erbyn Jeffrey Gafoor
golygu"Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'r heddlu. Mae hon yn garreg filltir o ran ymroddiad yr heddlu i adolygu ac ailymchwilio hen achosion."
Prif Uwcharolygydd Wynne Phillips, Pennaeth yr Uned Troseddau Difrifol, mewn datganiad gan Heddlu De Cymru ar ddiwedd achos Gafoor[13] |
Ar noson y 28 Chwefror 2003 arestiwyd dyn 38 oed o Rondda Cynon Taf a gafodd yna ei gadw mewn ysbyty o dan oruchwyliaeth yr heddlu[14] ac y bore dilynol dechreuodd heddlu a swyddogion fforensig archwilio y tŷ lle arestiwyd yn ffordd Pen-y-bont, Llanharan.[15][16] Cafodd y dyn, swyddog diogelwch[17] o'r enw Jeffrey Charles Gafoor,[18] ei holi gan yr heddlu ar ôl gadael ysbyty ac yna'i gyhuddo o lofruddio Lynette White.[19] Ar 7 Mawrth, 2003 ymddangosodd Gafoor o flaen Llys Ynadon Caerdydd i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad,[20] ac ar 4 Gorffennaf pleidiodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i lofruddio White.[5] Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes gan y barnwr, y Mr Ustus John Royce, a ddywedodd i Gafoor:
“ | Fe laddoch chi fenyw ifanc mewn modd erchyll. Am 15 mlynedd fe lwyddoch i gadw eich cyfrinach ac osgoi cyfiawnder, hyd yn oed pan oedd rhai eraill yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, y llofruddiaeth yr oeddech chi wedi ei chyflawni. Carchar am oes yw'r unig ddedfryd addas.[17] | ” |
Disgrifwyd Gafoor gan gymdogion fel "dyn unig a mewnblyg" heb ffrind neu gariad. Ar ôl i Dri Caerdydd gael eu rhyddhau ym 1992, symudodd Gafoor i fyw yn yr Almaen am gyfnod. Yn 2001 symudodd o Gaerdydd i dŷ ger y clwb rygbi yn Llanharan. Yn ôl cymdogion ystyrid Gafoor "ychydig yn od, [...] yn wr unig a doedd ddim yn adnabod neb". Dywedodd un fenyw leol taw "gwr hoffus iawn" gyda "synnwyr hiwmor da" oedd Gafoor, er "doedden ni fyth yn gweld unrhyw berthnasau na ffrindiau yn dod i'w weld", a dywedodd wrthi taw Indiad oedd ei dad a bod ei fam wedi marw.[21]
Ymchwiliad cyhoeddus
golyguWedi i Gafoor ei gael yn euog o lofruddiaeth White, galwodd Cymdeithas y Bargyfreithwyr am ymchwiliad cyhoeddus i'r modd gafodd yr ymchwiliad gwreiddiol ei drin.[22] Yn 2003 dywedodd yr Heddly byddent yn cynnal ymchwiliad "trylwyr a llym", yng ngeiriau Syr Anthony Burden, Prif Gwnstabl Heddlu'r De ar y pryd. Dechreuodd ymchwiliad yn Nhachwedd 2004 dan arolygiaeth Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu a gyda 26 o heddweision. Roedd 11 o bobl wedi'u harestio'n barod.[23]
Pobl a arestiwyd yn yr ymchwiliad
golygu- Ar 1 Hydref 2003 arestiwyd pedwar tyst yn yr achos wreiddiol – Mark Grommek, Angela Psaila, Leanne Vilday a Paul Atkins – ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.[24] Cafodd y pedwar eu rhyddhau ar fechnïaeth yr un ddiwrnod.[25]
- Ar 6 Tachwedd 2003 arestiwyd menyw 56 oed mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.[26] Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr un ddiwrnod.[27] Cafodd ei holi yng Ngorsaf Ganolog Abertawe.[26]
- Ar 26 Tachwedd 2003 arestiwyd menyw 35 oed mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.[28] Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr un ddiwrnod yn ddibynnol ar ymholiadau pellach.[29] Cafodd ei holi mewn gorsaf heddlu yn Abertawe.[26]
- Ar 30 Ebrill 2004 arestiwyd dyn 50 oed mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei holi mewn gorsaf heddlu yn Abertawe.[30]
- Ar 1 Hydref 2004 arestiwyd dyn 46 oed mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei holi mewn gorsaf heddlu yn Abertawe.[31]
- Ar 24 Tachwedd 2004 arestiwyd dyn 49 oed mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei holi mewn gorsaf heddlu yn Abertawe.[32]
- Ar 15 Rhagfyr 2004 arestiwyd menyw 57 oed o Abertawe mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei holi mewn gorsaf heddlu yn Abertawe.[33]
Achosion newydd
golyguYn Rhagfyr 2008 carcharwyd Mark Grommek, 50 oed, Leanne Vilday, 40 oed, ac Angela Psaila, 43 oed, am 18 mis yr un am ddweud celwydd ar lw wedi iddynt pledio'n euog.[34]
"Ar gais y barnwr ar Dachwedd 28, fe ddangosodd adolygiad gan yr erlyniad o ddeunydd na chafodd ei ddefnyddio bod rhai ffeiliau ar goll. Fe gafodd y ffeiliau yma eu hadolygu yn wreiddiol, ond ni ystyriwyd y dylid eu defnyddio. Wrth ymchwilio ymhellach, fe ddaeth i'r amlwg fod y ffeiliau wedi cael eu dinistrio, ac na chafodd rheswm am eu dinistrio ei gofnodi gan y plismyn a wnaeth hynny. Er mai copïau o'r ffeiliau oedd y rhain ac nid y ffeiliau gwreiddiol, mae hi bellach yn amhosib dweud i sicrwydd os oedd y copi yn union yr un peth a'r ffeiliau gafodd eu darparu gan yr IPCC. O dan yr amgylchiadau, yr unig weithred gywir oedd peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth, ac felly gwahodd rheithfarnau dieuog a dod â'r achos i ben."
Simon Clements, cyfreithiwr adolygu'r CPS yn yr achos yn erbyn yr wyth cyn-heddwas, wedi dymchweliad yr achos[35] |
Ym Mawrth 2009 datganodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) roedd "tystiolaeth ddigonol" i erlyn heddweision oedd â rhan yn yr achos wreiddiol yn erbyn Tri Caerdydd. Cychwynnodd achos yn erbyn wyth o gyn-heddweision Heddlu De Cymru a dau berson arall yng Ngorffennaf 2011. Gwadodd yr wyth cyn-heddwas gyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder, a gwadodd y ddau ddiffynnydd arall ac un o'r cyn-heddweision ddau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw. Ar 1 Rhagfyr 2011 dymchwelodd yr achos wedi i'r CPS benderfynu i beidio a chyflwyno tystiolaeth, wedi i ffeiliau a gafodd eu hadolygu ar gyfer yr achos gael eu dinistrio a heb gofnod o'r rheswm am hynny. Cofnodwyd rheithfarnau dieuog yn erbyn y diffynyddion yn Llys y Goron Abertawe ar yr un ddiwrnod. Dywedodd y barnwr Mr Ustus Sweeney wrth y llys: "Pan mae achos yn troi yn ddiatbryn annheg mae'n rhaid ei atal."[35]
Cytunodd Cyfarwyddwr y CPS, Keir Starmer QC, a Phrif Gwnstabl Heddlu'r De, Peter Vaughan, y dylid cynnal adolygiad llawn a manwl o'r amgylchiadau a arweiniodd at y dymchweliad. Credir i'r achos costio miliynau o bunnau.[35] Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad "ar faterion yn ymwneud â dinistrio'r dystiolaeth oedd yn golygu diwedd cynamserol i'r achos".[36]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Lladd yn arwain at gamwedd. BBC Cymru (4 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ 2.0 2.1 15 mlynedd ers llofruddio Lynette White. BBC Cymru (13 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Dulliau'r heddlu o dan y lach. BBC Cymru (28 Mehefin 2002). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ DNA yn gymorth i ddatrys achosion. BBC Cymru (4 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Dal llofrudd Lynette White. BBC Cymru (4 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2008.
- ↑ Lynette White - Y Cefndir. BBC Cymru (19 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ (Saesneg) Sekar, Satish (Haf 2005). The Downfall of Cellophane Man – How Legal History in Britain was made when Forensic Science Solved the Horrific Murder of Lynette White. Web Mystery Magazine. Adalwyd ar 25 Ebrill, 2009.
- ↑ 'Trywydd newydd yn achos Lynette White'. BBC Cymru (16 Ionawr 2000). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ 9.0 9.1 Ymchwiliad newydd i lofruddiaeth Lynette White. BBC Cymru (8 Medi 2000). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ 'Datblygiad mawr' yn achos Lynette. BBC Cymru (17 Ionawr 2002). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Lynette White: Cynnig samplau DNA. BBC Cymru (25 Ionawr 2002). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Lynette: Heddlu'n ailgreu sgrechiadau. BBC Cymru (28 Ebrill 2002). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ 13.0 13.1 'Angen heddlu i Gymru'. BBC Cymru (6 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Lynette White: Arestio dyn. BBC Cymru (1 Mawrth 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Lynette: Heddlu'n chwilio ty. BBC Cymru (3 Mawrth 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Pymtheg mlynedd ers lladd Lynette White. BBC Cymru (3 Mawrth 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ 17.0 17.1 Llofrudd Lynette: Carchar am oes. BBC Cymru (4 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Mae rhai adroddiadau newyddion cynnar yn nodi ei gyfenw fel "Gaffoor"
- ↑ Lynette: Cyhuddo dyn. BBC Cymru (6 Mawrth 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Lynette White: Dyn yn y llys. BBC Cymru (7 Mawrth 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ 'Bywyd tawel' llofrudd Lynette. BBC Cymru (4 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 9 Awst, 2010.
- ↑ Llofrudd Lynette: Angen ymchwiliad. BBC Cymru (5 Gorffennaf 2003). Adalwyd ar 21 Mawrth, 2009.
- ↑ Arolygu ymchwiliad Lynette. BBC Cymru (19 Tachwedd 2004). Adalwyd ar 21 Mawrth, 2009.
- ↑ Lynette: Arestio pedwar. BBC Cymru (1 Hydref 2003). Adalwyd ar 14 Mawrth, 2009.
- ↑ Lynette: Mechnïaeth i bedwar. BBC Cymru (1 Hydref 2003). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ 26.0 26.1 26.2 Lynette: Arestio menyw. BBC Cymru (6 Tachwedd 2003). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Lynette: Menyw ar fechnïaeth. BBC Cymru (6 Tachwedd 2003). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Lynette: Heddlu'n holi gwraig. BBC Cymru (26 Tachwedd 2003). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Lynette: Rhyddhau gwraig ar fechnïaeth. BBC Cymru (26 Tachwedd 2003). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Newyddion Cymru—Lynette White: Arestio dyn. BBC Cymru (30 Ebrill 2004). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Newyddion Cymru—Dweud celwydd ar lw: Holi. BBC Cymru (1 Hydref 2004). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Newyddion Cymru—Lynette: Holi dyn. BBC Cymru (24 Tachwedd 2004). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Newyddion Cymru—Lynette White: Arestio dynes. BBC Cymru (15 Rhagfyr 2004). Adalwyd ar 8 Awst, 2010.
- ↑ Celwydd ar lw: Carcharu tri. BBC Cymru (19 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 7 Awst, 2011.
- ↑ 35.0 35.1 35.2 Lynette White: Achos yn dymchwel. BBC Cymru (1 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 1 Rhagfyr, 2011.
- ↑ Lynette: Comisiwn yn ymchwilio. BBC Cymru (2 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 2 Rhagfyr, 2011.
Llyfryddiaeth
golygu- Satish Sekar (1998). Fitted in: Cardiff 3 and the Lynette White Inquiry. Fitted In Project. ISBN 0952732505
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) INNOCENT – Cardiff Three Archifwyd 2009-12-13 yn y Peiriant Wayback