Lloyd Warburton
Ganed Lloyd Baker Warburton yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth ar 17 Rhagfyr 2003 a daeth i amlygrwydd wedi iddo greu gwefan yn dangos ystadegau a map clir o ymlediad yr haint COVID-19 yng Nghymru wrth iddo ledaenu ar draws y byd ar ddechrau 2020. Ym mis Rhagfyr 2021, etholwyd i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru.[1][2]
Lloyd Warburton | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 2003 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
Ymateb i COVID-19
golyguCreodd Lloyd Warburton ei wefan CoronaVirusCymru.wales Archifwyd 2020-04-23 yn y Peiriant Wayback ar 10 Mawrth 2020 gan nodi ei achos gyntaf o 8 Mawrth 2020.[3]. Roedd yn postio ei wybodaeth yn ddyddiol ar ei gyfrif Twitter, @LloydCymru. Ymwelodd 4,000 o bobl â'r wefan ar y diwrnod cyntaf.[4]
Canmolwyd Lloyd am ei waith gan fod ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru er yn sail i'w ddarluniau ef, yn anoddach i'r cyhoedd a'r dilynwr lleyg eu deall. Bu'n llwytho ystadegau ICC wrth iddynt cael ei rhyddhau am 2.00pm bob prynhawn, a'i trosglwyddo drwy rhaglenni 'Pwer pwynt' a 'paint' i'w wefan.[5] Cymaint bu llwyddiant ei fformat fell iddo ddenu bron dwy fil a hanner o ddilynwyr newydd o fewn wythnos ar ddiwedd Mawrth a dechrau mis Ebrill 2020 a cafodd sawl ebost yn diolch iddo am ei waith.[5]
Yr hyn oedd y drawiadol am wasanaeth Lloyd wrth ledaenu gwybodaeth hawdd ei ddilyn a deall, oedd mai ond 16 ydoedd ar y pryd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth ac i fod sefyll arholiadau TGAU. Ei fwriad oedd dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi i ddilyn pynciau "lefelau-A mewn Bioleg, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg a, gobeithio, Ffiseg. Ar ôl hynny, gobeithio mynd i brifysgol a chael swydd dda, ond does gen i ddim cynllun pendant ar ôl lefelau A."[5]
Sylw yn y Cyfryngau
golyguDaeth gallu y dyn 16 oed i sylw'r cyfryngau gyda storïau yn BroAber360[6], Golwg360, gwefannau newyddion BBC Cymru Fyw, ac ar 22 Ebrill 2020 a'r rhaglen nosweithiol Heno[7] ar S4C.
Diddordebau
golyguMae Lloyd yn aelod o fudiad YesCymru sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru a bydd ei safbwyntiau gwleidyddol i'w gweld ar ei gyfrif trydar. Bu hefyd iddo arddangos mẁg gyda gludyn YesCymru arni yn ei gyfweliad ar y rhaglen Heno. Yn y darlun a ddefnyddiwyd mewn sawl cyfweliad gwelir ef yn gwisgo Crys-T yn dathlu rali dros annibyniaeth a gynhaliwyd ym Merthyr Tudful ar 7 Medi 2019.
Personol
golyguMae Lloyd yn fab i Simon a Donna Warburton ac yn byw yn Pisgah, pentref y tu allan i Aberystwyth.
Nododd ei ddiddordebau yn 2020 fel "... gwleidyddiaeth, awyrennau ac, wrth gwrs, mapiau. Mae hefyd gen i ddiddordeb yn codio, ond dydw i ddim yn dda iawn arno!"
Ar hyn o bryd mae Lloyd yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn 2022, dechreuodd garu Charlotte Davies, actifydd Llafur o Gwenfô. Mae hi'n hefyd yn fyfyrwraig yn Aberystwyth.
Mae Lloyd yn ddyfarnwr pêl-droed cymwys.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://nation.cymru/news/teen-covid-stats-whiz-lloyd-among-those-elected-to-welsh-youth-parliament/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-08. Cyrchwyd 2021-12-08.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-07. Cyrchwyd 2020-04-23.
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/566258-bachgen-ysgol-rhannur-wybodaeth-ddiweddaraf
- ↑ 5.0 5.1 5.2 https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52311548
- ↑ https://broaber.360.cymru/2020/mhrofiad-greu-diweddariadau-coronafirws/
- ↑ https://twitter.com/HenoS4C/status/1253030685813682177