Pisgah, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion

Pentrefan yng nghymuned Melindwr, Ceredigion, Cymru yw Pisgah, sydd 70.2 milltir (113 km) o Gaerdydd a 173.3 milltir (278.8 km) o Lundain.

Pisgah, Ceredigion
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Prin gellid galw Pisgah yn bentref, ond yn hytrach, trefnlan neu casgliad o dai. Mae'n ardal amaethyddol ond gyda nifer o'r trigolion yn gweithio yn Aberystwyth, y dref fwyaf cyfagos.

Fel mae'r enw'n awgrymu, (mynydd a enwir yn y Beibl yw Pisgah (פִּסְגָּה) - credir mai'r enw cyfredol, mynydd Nebo, yw'r lleoliad cyfeirir ati yn Deuteronomium 34:1–4), mae'r pentref yn sefyll ar ben garth sydd uwchlaw Afon Rheidol. I nifer o bobl lleol tafarn yr 'Halfway'[1] ar ffordd y briffordd A4120 yw prif atyniad y pentref.

Yn 2020 daeth bachgen lleol 16 oed o'r pentref, Lloyd Warburton i amlygrwydd Cymreig am iddo greu gwefan hawdd ei deall yn cofnodi lledaeniad haint COVID-19 yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.