Llychlynwyr

(Ailgyfeiriad o Llychlynnaidd)

Mae'r gair Llychlynnwr yn cyfeirio at y masnachwyr, gwladychwyr ac (weithiau) y môr-ladron Llychlynnaidd. Roedd y Llychlynwyr yn masnachu, yn brwydro ac yn adeiladu gwladfeydd ledled moroedd ac afonydd Ewrop ac ar arfordir dwyreiniol Gogledd America o 800 hyd 1050. Roeddent yn galw eu hunain yn 'Northwyr' ('Gwŷr y Gogledd'), fel y gwneir gan Lychlynwyr modern sydd yn galw eu hunain yn nordbor; 'Northmyn' oedd un o enwau Cymry'r Oesoedd Canol arnynt.

Llychlynwyr
Math o gyfrwngpobl, cyfnod o hanes, diwylliant, arddull Edit this on Wikidata
Dechreuwyd793 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw'r Llychlynwyr yn Rwsia a'r Ymerodraeth Fysantaidd oedd y Varangiaid, o'r enw Væringjar, sef "dynion a chleddyfau ganddynt". Roedd Varangiaid yn rhan o warchodlu Ymerawdwr Caergystennin (y Gwarchodlu Varangaidd).

Mae'r Llychlynwyr yn enwog iawn am frwydro ffyrnig a chryf ond roedden nhw yn grefftwyr a masnachwyr medrus iawn yn ogystal.

Heddiw mae disgynyddion y Llychlynwyr yn byw yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Denmarc, Ynysoedd Ffaröe a Sweden.

Map yn dangos ymestyniad y Sgandinafiaid yn:
     yr 8g      y 9g      y 10g      yr 11g      - sy'n dynodi ardaloedd a ddioddefodd llawer o ymosodiadau achlysurol gan y Llychlynwyr Sgandinafaidd, er na wnaethant wladychu yno

Gweler hefyd

golygu

Darllen pellach

golygu
  • Jones, Gwyn, A History of the Vikings (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001)
  • The Oxford Illustrated History of the Vikings, gol. Peter Sawyer (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001)
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.