Llychlys hirddail
Llychlys hirddail Aphanolejeunea microscopica | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Aphanolejeunea |
Rhywogaeth: | A. microscopica |
Enw deuenwol | |
Aphanolejeunea microscopica |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys hirddail (enw gwyddonol: Aphanolejeunea microscopica; enw Saesneg: long-leaved pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Disgrifiad
golyguMae gan y rhywogaeth hon egin hyd at 6 mm o hyd, ond yn llai na 0.5 mm o led, o wyrdd canolig neu wyrdd golau. Fel arfer, mae'n ffurfio carpedi tenau neu glytiau bach, trwchus, yn aml gyda llysiau'r afu bach eraill yn tyfu gerllaw. Mae'r dail ar ffurf wyau neu'n siap ofal, ac yn ymddangos fel pe na bai'n sownd yn y coesyn. Nid oes unrhyw danddail.[1]
Cynefin
golyguFel arfer, ei gynefin yw mannau tamp, neu laith, yn enwedig ar greigiau sych ger rhaeadr neu nentydd rhedegog.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 6 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.