Llychlys tywyll
Llychlys tywyll Marchesinia mackaii | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Marchesinia |
Rhywogaeth: | M. mackaii |
Enw deuenwol | |
Marchesinia mackaii |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys tywyll (enw gwyddonol: Marchesinia mackaii; enw Saesneg: MacKay's pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a ledled y byd.
Mae M. mackaii yn tyfu mewn cytrefi o egin gwastad tebyg i bryfaid genwair, sy'n gorchuddio creigiau. Ceir coesynnau sydd fel arfer yn ddu ac maent hyd at 5 cm o hyd a 4 mm o led. Mae'r dail yn grwn.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Lledaeniad yng Nghymru
golyguLlysiau'r afu anghyffredin Marchesinia mackaii (MacKay's Pouncewort). Dim ond ar greigiau calchaidd cysgodol, gyda dosbarthiad gorllewinol cryf, fel a welir yma ym Mhen Dinas [2]. Am weddill y llychlys, ewch yma[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
- ↑ tudalen Wendy McCsrthy, Facebook
- ↑ https://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#llychlys