Agor y brif ddewislen

Tair Talaith Cymru oedd tair prif deyrnas Cymru'r Oesoedd Canol a'r tair coron a berthynai iddynt (mae'r gair Cymraeg Canol 'talaith' yn gallu golygu 'coron' neu 'diadem' yn ogystal ag 'ardal' neu 'talaith'). Cynrychiolir y tair talaith gan ei phrif lysoedd, sef Aberffraw (teyrnas Gwynedd), Mathrafal (teyrnas Powys) a Dinefwr (Deheubarth).

Ceir un o'r cyfeiriadau cyntaf at y tair rhaniad sylfaenol hyn yn naearyddiaeth wleidyddol Cymru mewn rhai testunau o Gyfraith Hywel Dda. Yn y llawysgrifau o'r testun a adnabyddid fel Llyfr Blegywryd, disgrifir fel y galwodd y brenin Hywel Dda gyfreithwyr o bob rhan o'r wlad ato i adlunio'r gyfraith. Ar ôl iddynt drefnu'r gyfraith yn dri llyfr cyfraith ("Tair Colofn Cyfraith"), gorchmynodd Hywel i dri chopi gael ei wneud i'w dosbarthu i dair rhan Cymru:

'Gwedy hynny yd erchis y brenhin gwneuthur tri llyuyr kyfreith: vn wrth y lys beunydyawl...' (Mathrafal) ; 'arall y lys Dinefwr; y trydydd y lys Aberffraw ; megys y kaffei deir rann Kymry, Gwyned, Deheubarth, Powys, awdurdawt kyfreith yn eu plith wrth eu reit yn wastat ac yn barawt.'[1]

Ymddengys mai datblygiad oedd hyn yn yr Oesoedd Canol cynnar o hen gysyniad, a geir mewn diwylliannau eraill yn ogystal. Yr ymraniad cynharaf, yn ôl rhai testunau o Drioedd Ynys Prydain, oedd tair talaith y Brythoniaid; un ym Mhen Rhionydd yn yr Hen Ogledd, yr ail yn Aberffraw a'r drydedd yng Nghernyw.[2]

Erbyn y 13g unwyd y tair talaith gan Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd. Mae'r bardd Llygad Gŵr yn disgrifio Llywelyn Ein Llyw Olaf fel

'Taleithiawg deifniawg dyfniaith Aberffraw'
'Taleithiawg arfawg aerfaith Dinefwr'
'Taleithiawg Mathrafal, maith dy derfyn'.[3]

Roedd cyfundrefn y beirdd yn dilyn y patrwm hwn yn ogystal, gyda'r wlad wedi'i rhannu yn 'Dair Talaith Farddol'.

CyfeiriadauGolygu

  1. Melville Richards (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda (Caerdydd, 1957), t. 1
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). Appendix I.
  3. 'Pum Awdl i Lywelyn ap Gruffudd', awdl IV, yn Llywelyn y Beirdd (Barddas, 1974), t. 76