Llyfrau Llafar Cymru
Mae Llyfrau Llafar Cymru (fersiwn Saesneg yr enw: Talking Books Wales) yn gorff sy'n creu a darparu copïau o lyfrau llafar yn y Gymraeg ac o ddiddordeb Cymreig yn Saesneg. Fe'i lleolir yng Nghaerfyrddin ac fe'i sefydlwyd yn ei ffurf bresennol yn 2012 ond roedd hynny ar sail gwasanaethau blaenorol i bobl ddall a ddatblygwyd yn yr 1970au.
Iaith | Cymraeg, Saesneg |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2012 |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Gweithredwr | deaf |
Hanes
golyguMae Llyfrau Llafar Cymru yn gorff a unodd o dri gwasanaeth oedd eisoes yn bodoli yn Nghaerfyrddn:
- Llyfrau Llafar (er 1979)
- Papur Llafar Y Dellion (1976)
- Radio Glangwili (1972)
Bob wythnos byddai rhifynnau o’r Papur Llafar yn cael eu darlledu ar Radio Glangwili – gwasanaeth arbennig i gleifion Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Darlledwyd yr atodiadau misol hefyd – yn y ddwy iaith.
Yn stiwdios Radio Glangwili y recordiwyd y Papur Llafar i ddechrau gyda Sulwyn Thomas, a ddaeth maes o law yn ddarlledwr amlwg ar BBC Radio Cymru, yn chwarae rhan flaenllaw. Yna, gydag ymddangosiad y Llyfrau Llafar, symudwyd i stiwdios pwrpasol ar wahân. Mae’r ddwy elusen wedi rhannu stiwdios a swyddfeydd.
Drwy gydol yr amser fe gefnogwyd y Llyfrau Llafar gan gymdeithasau i’r Deillion.[2]
Sefydlu Gwasnaeth Unedig
golyguYn 1979 dan arweiniad Rhian Evans, llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant (Coleg y Drindod ar y pryd). Roedd ei golwg yn gwaethygu a meddyliodd y byddai’n syniad gwych i fenthyg llyfrau Cymraeg ar gasét am ddim. Fe’i cefnogwyd yn syth gan y llyfrgellydd adnabyddus a dylanwadol, Alun R. Edwards, Prif Lyfrgellydd Dyfed. Ariannwyd y gwasanaeth gwreiddiol gan Gynllun Creu Gwaith y Llywodraeth San Steffan. Bedair blynedd ynghynt roedd Rhian wedi dechrau’r Papur Llafar a gai ei recordio yn Radio Glangwili, Gwasanaeth Radio Ysbyty Caerfyrddin.
Ym 1989 pan ddaeth cynllun cyllido’r Llywodraeth i ben, ond daeth Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru i’r adwy. Fe recordiwyd rhai llyfrau ym Mangor ond Caerfyrddin oedd y brif ganolfan recordio dan arweiniad Rhian. Rhoddwyd pwyslais ar recordio Llyfrau Cymraeg ar y dechrau, yna, pan sylweddolwyd bod yna alw, aethpwyd ati i recordio llyfrau Saesneg oedd yn berthnasol i Gymru ar gasét – 2,000 i gyd.
Tua diwedd 2010 roedd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn wynebu trafferthion ariannol. Un cynnig oedd cau stiwdio Caerfyrddin, symud yr holl deitlau i Fangor gan adael dau weithiwr rhan amser heb swydd.
Ffurfiwyd pwyllgor i geisio achub y gwasanaeth allweddol yma i ddeillion, y rhannol ddall a’r rhai sy’n cael trafferth i ddarllen print yng Nghaerfyrddin. O fewn misoedd llwyddwyd i gael grant o £35,000 gan Lywodraeth Cymru i ail lawnsio’r hen gynllun casátiau fel Llyfrau Llafar Cymru/ Talking Books Wales.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol ar y 24 Ionawr 2012 ym Mae Caerdydd.
Cyllido
golyguDaw cyllideb i'r gwasanaeth o wahanol ffyrdd gan gynnwys Cronfa'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau mewn ewyllysiau a digwyddiadau codi arian.[3]
Gwasanaeth tebyg yn y Gogledd
golygu[4] Ceir hefyd wasanaeth debyg gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru lle bydd gwirfoddolwyr yn recordio darlleniadau o lyfrau Cymraeg.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr Ugain Uchaf". Gwefan Gwasg y Lolfa. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
- ↑ "Cefndir". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
- ↑ "Newyddion". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
- ↑ "Hanes". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.
- ↑ "Llyfrau Llafar i Oedolion". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-24. Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Llyfrau Llafar Cymru
- Twitter Llyfrau Llafar Cymru @LlyfrauLlafarCy