Y Lolfa
Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir ym mhentref Tal-y-bont, Ceredigion, yw Y Lolfa. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn enw'r Lolfa yn 1966 — Hyfryd Iawn gan Eirwyn Pontshân — ond yn 1967 y sefydlwyd y cwmni fel gwasg fasnachol gan Robat Gruffudd.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyhoeddwr ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1967 ![]() |
Pencadlys | Tal-y-bont ![]() |
Gwefan | https://www.ylolfa.com/ ![]() |
Tyfodd y wasg allan o'r deffroad ieithyddol a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yn chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Gellir dweud mai ei "marchnad" cynharaf oedd y to newydd o bobl ifanc a gododd yn y cyfnod ac atyn nhw y cyfeiriwyd llawer o ddeunydd cynnar y wasg, yn llyfrau canu poblogaidd, cardiau doniol, posteri seicedelaidd a barddoniaeth "answyddogol".
Roedd gan y cwmni gysylltiad agos ond anffurfiol â Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir.
Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg offset litho. Manteisiodd ar y rhyddid a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad lyfrau Cymraeg. Ar yr un pryd roedd yn cynhyrchu deunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol Y Blew, cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant ('Y Llewod' a chyfres 'Rwdlan'), llyfrau dysgu Cymraeg yn llawn hiwmor gwleidyddol anghywir, nofelau cyfoes, a llyfrau ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Er mwyn cefnogi arlunwyr a dylunwyr Cymreig, penderfynodd Y Lolfa ddilyn polisi o beidio cyhoeddi addasiadau.
Bu'r cwmni yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro cyntaf yn Gymraeg, Papur Pawb yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974).[1] Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.
Erbyn hyn mae'r cwmni yn un o brif cyhoeddwyr Cymru, ac yn cyhoeddi ystod eang o lyfrau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni oedd cyhoeddi Llyfr y Ganrif ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y flwyddyn 1999. Yn 2007, enillodd wobr 'Llyfr y Flwyddyn' am y trydydd tro o'r bron.
Mae'r Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn cyflogi ugain yn amser llawn yn Nhal-y-bont, gan gynnwys chwech o olgyddion. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau, mae'n cynnig gwasanaeth argraffu cyffredinol ar beiriannau 5-lliw a pherffeithio yn y maint B2.
Cyfarwyddwyr Y Lolfa yw Garmon Gruffudd (Rheolwr Gyfarwyddwr) a Lefi Gruffudd (Golygydd Cyffredinol), gyda Paul Williams yn Rheolwr Cynhyrchu.[2]
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Papur Pawb
- ↑ "Staff Y Lolfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-14. Cyrchwyd 2017-10-17.
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan Y Lolfa Archifwyd 2016-06-01 yn y Peiriant Wayback.