Llygoden fronfelen

Llygoden fronfelen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Muridae
Genws: Apodemus
Rhywogaeth: A. flavicollis
Enw deuenwol
Apodemus flavicollis
Melchior, 1834
Dosbarthiad daearyddol

Llygoden fach frown glustfawr gyda gwddf o liw'r ocr yw llygoden fronfelen neu warfelen (Apodemus flavicollis). Mae i'w gael ledled y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n gyffredin yn ne Lloegr a dwyrain Cymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1] Mae'n debyg iawn i lygoden y coed ond mae ganddi resen o ffwr ocraidd o amgylch ei gwddf.

Maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, ac maen nhw'n ddringwyr da sy'n cripian trwy goed a llwyni. Maen nhw'n weithgar yn y nos gan chwilio am am eu bwyd – cnau, blagur, egin, ffrwythau ac weithiau pryfed. Nid ydynt yn gaeafgysgu.

Mae rhieni'n magu sawl torllwyth yn ystod tymor, ond ychydig o oedolion fydd yn goroesi o un haf i'r nesaf.

Mae eu hysglyfaethwyr yn cynnwys llwynogod, gwencïod a thylluanod.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Yellow Necked Mouse" Archifwyd 2021-05-09 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 8 Mai 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.