Llygoden yr ŷd
Llygoden yr ŷd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Muridae |
Genws: | Murinae |
Rhywogaeth: | M. minutus |
Enw deuenwol | |
Micromys minutus Pallas, 1771 | |
Dosbarthiad daearyddol |
Llygoden fach frowngoch gyda chynffon afaelog yw llygoden yr ŷd (Micromys minutus). Mae i'w gael mewn rhanbarthau ledled Ewrop a gogledd Asia. Nid yw'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "fregus".[1]
Mae'n byw mewn glaswelltir a thir âr, yn enwedig ardaloedd o laswellt tal fel ydau, ymylon ffyrdd, gwrychoedd, corsleoedd a morfeydd heli. Mae'r planhigion tal yn darparu lleoedd addas lle gall adeiladu ei nyth nodweddiadol - pelen o laswellt wedi'u gwehyddu'n dynn.
Mae ganddi drwyn di-fin, llygaid bach a chlustiau bach blewog (yn wahanol i rywogaethau eraill o lygod ym Mhrydain). Mae ei ffwr yn llwytgoch neu felyngoch gyda thor wen. Mae'n defnyddio ei chynffon, sydd cyhyd â'r pen a'r corff, i afael â chorsennau'r ŷd wrth iddi ddringo yn eu plith.
Fel arfer mae'n bwyta hadau, aeron a phryfed, ond weithiau mwsogl, gwreiddiau a ffyngau hefyd. Mae'n gallu cymryd grawn o bennau ŷd, gan adael gweddillion siâp cryman nodweddiadol, ond anaml y mae'n achosi llawer o ddifrod i gnydau.
Mae'n byw tua 18 mis ar gyfartal.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Harvest Mouse" Archifwyd 2021-01-16 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 23 Chwefror 2021