Llyn Bodafon
llyn bychan
Llyn bychan ar Ynys Môn yw Llyn Bodafon. Fe'i lleolir gerllaw Mynydd Bodafon yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, tua hanner ffordd rhwng Llannerch-y-medd i'r gorllewin a Moelfre i'r dwyrain.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.340226°N 4.303136°W |
Geirdarddiad
golyguMae union ystyr yr enw Bodafon a geir yn enw'r llyn a'r mynydd hyn yn ansicr. Mae bod ("trigfan") yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd, ond does dim afon yn y cylch i esbonio'r enw. Fodd bynnag, cofnodwyd Llyn Archaddon fel hen enw ar Lyn Bodafon. Gall Bodafon fod yn amrywiad ar Bodaddon (gyda -dd yn newid i -f, fel sy'n digwydd weithiau). Felly: bod (trigfan) + aeddon ('arglwydd') neu A(e)ddon (enw personol), efallai.[1]
Archaeoleg
golyguCeir olion Cytiau'r Gwyddelod, sy'n perthyn i Oes yr Haearn yn ôl pob tebyg, ger y llyn ac ar lethrau Mynydd Bodafon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).